LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 6/12 t. 2
  • Blwch Cwestiynau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Blwch Cwestiynau
  • Ein Gweinidogaeth—2012
Ein Gweinidogaeth—2012
km 6/12 t. 2

Blwch Cwestiynau

◼ Beth dylwn ni ei ystyried os dymunwn ni adael rhan, neu’r cyfan, o’n hasedau i gyfundrefn Jehofah ar ôl inni farw?

Ar ôl iddyn nhw farw, nid oes gan bobl reolaeth dros eu heiddo. (Preg. 9:5, 6) Felly, mae llawer yn gwneud ewyllys neu ymddiriedolaeth sy’n egluro eu dymuniadau ar gyfer dosbarthu eu hasedau. (2 Bren. 20:1) Fel arfer mae’r ddogfen gyfreithiol hefyd yn dangos pwy maen nhw’n dymuno i fod yn ymddiriedolwr neu’n ysgutor. Mewn llawer o wledydd, os nad oes ewyllys, yr awdurdodau fydd yn penderfynu sut i ddosbarthu asedau’r ymadawedig. Felly, os oes gennyn ni ddymuniadau penodol ynglŷn â’n hasedau, megis bod rhan neu’r cyfan yn mynd at gyfundrefn Jehofah, mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud dogfen gyfreithiol sy’n dweud hynny, a’n bod ni’n dewis yr ymddiriedolwr neu’r ysgutor yn ofalus.

Mae cyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r ymddiriedolwr neu’r ysgutor. Mae’n dibynnu ar faint yr ystad, ond gall casglu manylion a dosbarthu’r asedau gymryd llawer o amser. Ar ben hynny, yn aml mae’r awdurdodau yn rhoi canllawiau y mae’n rhaid inni eu dilyn. Ni fyddai pawb yn y gynulleidfa yn addas ar gyfer bod yn ymddiriedolwr neu’n ysgutor. Dylai’r un a ddewiswn fod yn un y gwyddon ni ei fod yn alluog, yn ddibynadwy ac yn barod i ddilyn ein dymuniadau.—Gweler yr erthygl “The Wisdom and Benefits of Estate Planning,” yn Awake! Rhagfyr 8, 1998.

Os Bydd Rhywun yn Gofyn Ichi Fod yn Ymddiriedolwr Neu’n Ysgutor: Os yw rhywun yn gofyn ichi ofalu am ei eiddo personol ar ôl iddo farw, yn gyntaf cyfrifwch y gost a gweddïwch er mwyn gweld a fedrwch chi gyflawni’r gwaith. (Luc 14:28-32) Ar ôl i’r person farw, bydd yn rhaid ichi roi gwybod i’r buddiolwyr. Yna, pan gewch chi’r awdurdod i’w wneud, eich cyfrifoldeb chi yw dosbarthu’r asedau yn ôl y gyfraith ac yn union fel mae’r ewyllys yn ei chyfeirio. Beth bynnag yw maint yr ystad, ni ddylai’r ymddiriedolwr neu’r ysgutor anwybyddu’r hyn sydd yn ysgrifenedig yn yr ewyllys. Mae unrhyw rodd tuag at gorff cyfreithiol a ddefnyddir gan Dystion Jehofah yn gyllid ymroddedig sy’n perthyn i gyfundrefn Jehofah.—Luc 16:10; 21:1-4.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu