Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth
Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu trafod yn Ysgol y Weinidogaeth yn ystod yr wythnos yn cychwyn Mehefin 25, 2012. Rhoddir y dyddiad y bydd pob cwestiwn yn cael ei drafod fel y gallwch wneud ymchwil wrth baratoi ar gyfer yr ysgol bob wythnos.
1. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o hanes Jeremeia yn goroesi cyfnod o galedi economaidd enbyd? (Jer. 37:21) [Mai 7, w97-E 9/15 t. 3 par. 4–t. 4 par. 1]
2. Sut mae Cristnogion sy’n edrych ymlaen at fywyd tragwyddol ar y ddaear yn dilyn esiampl Ebed-melech? (Jer. 38:8-13) [Mai 7, su-E t. 179 par. 9]
3. Gan fod Jehofah wedi defnyddio milwyr Nebuchadnesar i warchod Jeremeia a Baruch, a fyddai’n addas i Gristnogion heddiw droi at swyddogion arfog yr heddlu i’w hamddiffyn? (Jer. 39:11-14) [Mai 14, w83-E 7/15 t. 31]
4. Pa “bethau mawrion” roedd Baruch efallai yn eu ceisio iddo ef ei hun, a beth gallwn ni ei ddysgu drwy feddwl am ymateb Baruch i gyngor Jehofah? (Jer. 45:5) [Mai 21, w06-E 8/15 t. 18 par. 1; t. 19 par. 6]
5. Wrth ddisgrifio’r farn a fyddai’n dod ar Edom, pam mae Jehofah yn dweud ei fod yn wahanol i’r “cynaeafwyr gwin” a’r “lladron”? (Jer. 49:9, 10) [Mai 28, w77-E t. 442 par. 7–t. 443 par. 1]
6. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hyn a ddigwyddodd i’r Brenin Sedeceia ar ôl iddo ‘wrthryfela yn erbyn brenin Babilon’? (Jer. 52:3, 7-11) [Meh. 4, w88-E 9/15 t. 17 par. 8; w81-E 4/1 t. 13 par. 3-4; t. 14 par. 6]
7. Beth yw ‘troedfainc’ a ‘phabell’ Jehofah? (Galar. 2:1, 6) [Meh. 11, w07-E 6/1 t. 9 par. 2]
8. Pam mai peth da yw inni ddysgu cymryd yr iau arnon ni a dioddef er mwyn ein ffydd yng nghyfnod ein hieuenctid? (Galar. 3:27) [Meh. 18, w07-E 6/1 t. 11 par. 5; w87-E 2/15 t. 24 par. 1]
9. A yw Duw yn galw pobl i gyfrif am gamweddau eu hynafiaid? (Galar. 5:7) [Meh. 18, w07-E 6/1 t. 11 par. 1]
10. Sut gall esiampl Eseciel ein helpu ni i fod yn ddewr wrth siarad â phobl sy’n dangos fawr ddim o ddiddordeb? (Esec. 3:8, 9) [Meh. 25, w08-E 7/15 tt. 8-9 par. 6-7]