Cyhoeddiadau
◼ Y cynnig ar gyfer mis Mehefin: Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? Ceisiwch ddechrau astudiaeth ar yr alwad gyntaf. Os yw deiliad y tŷ eisoes wedi cael copi o’r llyfr, ond nad yw’n dymuno astudio’r Beibl, ceir cynnig unrhyw gylchgrawn neu lyfryn sy’n cwrdd â’i anghenion. Gorffennaf ac Awst: Defnyddiwch un o’r llyfrynnau canlynol: A Gafodd Bywyd ei Greu? neu Llyfr i Bawb. Medi a Hydref: Y Watchtower a’r Awake! Wrth fynd yn ôl, ystyriwch anghenion y person a chyflwynwch naill ai’r llyfr Beibl Ddysgu, neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, gyda’r nod o ddechrau astudiaeth.
◼ Byddwn yn ystyried y DVD Our Whole Association of Brothers mewn Cyfarfod Gwasanaeth i ddod. Os oes angen copïau arnoch, dylid eu harchebu drwy’r gynulleidfa cyn gynted ag y bo modd.
◼ Trefnodd y Corff Llywodraethol Seminarau Dysgu Iaith ar gyfer 117 o frodyr penodedig ym mis Mawrth. Cynhaliwyd y seminarau a oedd yn para am wythnos yn Neuaddau Cynulliad Swydd Surrey a Manceinion. Mae brodyr sy’n siarad 51 o ieithoedd wedi cael eu hyfforddi i ddysgu gwersi iaith.