LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 8/12 t. 4
  • Cyhoeddiadau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cyhoeddiadau
  • Ein Gweinidogaeth—2012
Ein Gweinidogaeth—2012
km 8/12 t. 4

Cyhoeddiadau

◼ Y cynnig ar gyfer mis Awst: Defnyddiwch un o’r llyfrynnau canlynol: Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?, Llyfr i Bawb, neu A Gafodd Bywyd ei Greu? Wrth fynd yn ôl, ystyriwch anghenion y person a chyflwynwch naill ai’r llyfr Beibl Ddysgu neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, gyda’r nod o ddechrau astudiaeth. Medi a Hydref: Ystyriwch anghenion y person a chyflwynwch naill ai’r llyfr Beibl Ddysgu neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, gyda’r nod o ddechrau astudiaeth. Tachwedd a Rhagfyr: Gellir defnyddio unrhyw draethodyn o’r rhestr ganlynol: Jehofah—Pwy Ydi E?, Bywyd Mewn Byd Newydd o Heddwch, neu Hoffech Chi Wybod y Gwir? Os oes diddordeb, dangoswch sut mae astudio’r Beibl drwy ddefnyddio naill ai’r llyfr Beibl Ddysgu neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth.

◼ Gan gychwyn ym mis Medi, teitl anerchiad yr arolygwyr cylchdaith fydd “Walking With God Brings Blessings Now and Forever.”

◼ Ysgolion Arloesi: Cynhaliwyd 46 o Ysgolion Arloesi ym Mhrydain ac Iwerddon. Ymhlith y 1,513 o fyfyrwyr, roedd 461 yn mynd am yr eildro. Sylwer: cynhelir ysgolion yn ystod mis Awst o 2013 ymlaen yn hytrach nag yn ystod y gaeaf.

◼ Graddiodd dosbarth rhif 44 o’r Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Brodyr Sengl ar ddydd Sadwrn, Mai 26, yn Neuadd Cynulliad East Pennine. Daeth ugain o’r graddedigion o Brydain ac un o Sweden. Maen nhw i gyd yn gwasanaethu’n llawn amser. Cafodd y myfyrwyr o Brydain i gyd eu haseinio i gynulleidfaoedd sydd o dan ofal cangen Prydain.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu