Cewch Fwynhad o’ch Llafur
1. Beth all achosi inni golli ein sêl yn y weinidogaeth?
1 Cafodd dyn ei greu i ‘gael mwynhad o’i lafur.’ (Preg. 2:24) Ond, os dydyn ni ddim yn gweld canlyniadau da yn y weinidogaeth, fe fedrwn ni ddigalonni a cholli ein sêl Beth all ein helpu ni i gadw agwedd bositif?
2. Pam dylen ni gael disgwyliadau rhesymol ynglŷn â’r ffordd y mae pobl yn ymateb yn y weinidogaeth?
2 Disgwyliadau Rhesymol: Er nad oedd llawer wedi ymateb i neges Iesu, roedd ei weinidogaeth yn llwyddiannus. (Ioan 17:4) Yn nameg yr heuwr, rhagfynegodd Iesu na fyddai calonnau’r mwyafrif yn barod i dderbyn yr had, sef neges y Deyrnas. (Math. 13: 3-8, 18-22) Er hynny, mae ein hymdrechion dyfal yn cyflawni llawer.
3. Sut gallwn ni ‘ddwyn ffrwyth’ hyd yn oed os nad ydyn ni’n cael ymateb da i’n gwaith pregethu?
3 Rydyn Ni’n Dwyn Llawer o Ffrwyth: Yn ôl eglureb Iesu, byddai’r rhai sy’n derbyn y neges yn “dwyn ffrwyth.” (Math. 13:23) Ar ôl i’r gwenith egino a thyfu, nid mwy o wenith yw’r ffrwyth sy’n cael ei gynhyrchu, ond had newydd. Mae Cristnogion yn dwyn ffrwyth yn llwyddiannus nid o reidrwydd drwy wneud disgyblion newydd ond drwy amlhau’r had wrth bregethu am y Deyrnas. Medrwn ni gael “mwynhad” o’n gwaith da, p’un a yw pobl yn ymateb neu beidio. Rydyn ni’n cyfrannu at sancteiddio enw Jehofah. (Esei. 43:10-12; Math. 6:9) Rydyn ni’n mwynhau’r fraint o gydweithio â Duw. (1 Cor. 3:9) Ac mae “ffrwyth gwefusau” o’r fath yn gwneud i Jehofah lawenhau.—Heb. 13:15, 16.
4. Beth gall ein gweinidogaeth ei gyflawni heb inni wybod?
4 Hefyd, gall ein gwaith ddod â chanlyniadau heb inni wybod. Er iddyn nhw glywed Iesu yn pregethu, mae’n bosibl na ddaeth rhai yn ddisgyblion hyd nes iddo orffen ei weinidogaeth ar y ddaear. Efallai, wrth inni hau had y Deyrnas, ni fydd yr had yn gwreiddio ac yn egino yng nghalon rhywun yn syth, ac efallai y daw’r unigolyn i mewn i’r gwirionedd rywbryd yn y dyfodol, a hynny heb inni wybod. Yn wir, mae ein gweinidogaeth yn dwyn ffrwyth da. Felly, gadewch inni ddal ati i “ddwyn llawer o ffrwyth” a dangos ein bod ni’n ddisgyblion i Iesu.—Ioan 15:8.