Uchafbwyntiau o’r Maes
Roedd mis Gorffennaf yn fis hynod o gyffrous i’n brodyr yn Iwerddon. Roedd 9,386 yn bresennol ar gyfer cynhadledd arbennig a gynhaliwyd yn Nulyn. Cyflwynwyd y rhaglen yn Saesneg ac, yn llwyr neu’n rhannol, mewn wyth iaith arall. Roedd nifer yr arloeswyr parhaol ar ei uchaf erioed, a chafwyd cynnydd o 4 y cant yn y nifer o gyhoeddwyr o’i gymharu â’r un mis y llynedd. Ym Mhrydain, cafodd 132,664 ran yn y weinidogaeth a chynhaliwyd 56,050 o astudiaethau Beiblaidd.