LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 12/12 t. 7
  • Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth
  • Ein Gweinidogaeth—2012
Ein Gweinidogaeth—2012
km 12/12 t. 7

Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth

Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu trafod yn Ysgol y Weinidogaeth yn ystod yr wythnos yn cychwyn Rhagfyr 31, 2012. Rhoddir y dyddiad y bydd pob cwestiwn yn cael ei drafod fel y gellir gwneud ymchwil wrth baratoi ar gyfer yr ysgol bob wythnos.

1. Sut mae’r broffwydoliaeth yn Joel 2:1-10, 28 ynglŷn ag ymosodiad pla o bryfed wedi cael ei chyflawni? [Tach. 5, w07-E 10/1 t. 13 par. 1]

2. Ar bwy y mae Amos 8:11 yn cael ei chyflawni, a pha gwestiwn dylen ni ei ofyn i ni’n hunain, gan fod gennyn ni ddigonedd o fwyd ysbrydol? [Tach. 12, jd-E tt. 60-61 par. 9]

3. Pam roedd calonnau’r Edomiaid yn falch, ond pa ffaith dylen ni byth ei hanghofio? (Obad. 3, 4) [Tach. 19, w07-E 11/1 t. 14 par. 1]

4. Ym mha ffordd gwnaeth Jehofah edifarhau am y drwg yr oedd yn bwriadu ei wneud i drigolion Ninefe? (Jona 3:8, 10) [Tach. 19, w07-E 11/1 t. 15 par. 1]

5. Sut gall rhodio yn enw Duw gryfhau ein cyfeillgarwch ag ef? (Mich. 4:5) [Tach. 26, jd-E t. 88 par. 12]

6. Pa sicrwydd y mae cyflawniad y broffwydoliaeth yn Nahum 2:6-10 yn ei roi inni? [Rhag. 3, w07-E 11/15 t. 9 par. 2; w88-E 2/15 t. 28 par. 7]

7. Beth yw ystyr Haggai 1:6, a pha wers sydd yma i ni? [Rhag. 10, w06-E 4/15 t. 22 par. 12-15]

8. Sut gallwn ni roi’r cyngor yn Sechareia 7:10 ar waith a pheidio â ‘dyfeisio yn ein meddyliau ddrwg i’n gilydd’? [Rhag. 17, jd-E t. 113 par. 6; w07-E 12/1 t. 11 par. 3]

9. Pam mae’r geiriau yn Sechareia 4:6, 7 yn gysur i’r rhai sy’n addoli Jehofah heddiw? [Rhag. 17, w07-E 12/1 t. 11 par. 1]

10. Yng ngoleuni’r geiriau yn Malachi 3:16, pam na ddylen ni byth simsanu yn ein penderfyniad i aros yn ffyddlon i Dduw? [Rhag. 31, w07-E 12/15 t. 29 par. 3]

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu