LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 1/13 t. 1
  • Tystiolaethu’n Drylwyr

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Tystiolaethu’n Drylwyr
  • Ein Gweinidogaeth—2013
  • Erthyglau Tebyg
  • “I Ben Draw’r Byd”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
  • Ymosodiad yn Dod o’r Gogledd!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
Ein Gweinidogaeth—2013
km 1/13 t. 1

Tystiolaethu’n Drylwyr

1.Pa esiampl dda a osododd yr apostol Paul yn ei weinidogaeth?

1 Dywedodd Paul wrth Timotheus y dylai gyflawni “holl ofynion” ei weinidogaeth. (2 Tim. 4:5) Roedd gan Paul bob hawl i annog Timotheus yn hyn o beth. Yn wir, rhwng 47 a 56 OG, roedd Paul wedi bod ar dair taith genhadol. Mae llyfr yr Actau’n sôn yn aml am y ffordd drylwyr y bu Paul yn tystiolaethu. (Act. 23:11; 28:23) Sut gallwn ni dystiolaethu’n drylwyr heddiw?

2.Sut gallwn ni fod yn drylwyr wrth bregethu o dŷ i dŷ?

2 O Dŷ i Dŷ: Er mwyn siarad â phobl nad ydyn nhw erioed wedi clywed y newyddion da, efallai y bydd rhaid inni alw ar amser gwahanol. Mae’n bosibl y bydd mwy o ddynion gartref gyda’r nos neu ar y penwythnos. Dylen ni geisio siarad â rhywun ym mhob tŷ, gan ddychwelyd dro ar ôl tro i’r tai lle nad oedd neb gartref. Os ydyn ni’n dal yn methu siarad â rhywun, rhaid inni gofio bod Jehofah yn defnyddio’r ‘angylion yng nghanol y nef’ i hyrwyddo’r gwaith.—Dat. 14:6.

3.Pa gyfle sydd gennych chi i dystiolaethu’n gy­hoeddus ac yn anffurfiol?

3 Yn Gyhoeddus ac yn Anffurfiol: Mae gweision Jehofah yn cyhoeddi “doethineb” i bawb sy’n fodlon gwrando. Weithiau maen nhw’n gwneud hyn “yn y stryd” neu “yn y sgwâr.” (Diar. 1:20, 21) Yn ein bywydau bob dydd, ydyn ni’n edrych am gyfle i dystiolaethu? Ydyn ni’n “ymroi yn llwyr i bregethu’r Gair”? (Act. 18:5) Os felly, rydyn ni’n tystiolaethu’n drylwyr.—Act. 10:42; 17:17; 20:20, 21, 24.

4. Sut mae gweddïo a myfyrio yn ein helpu ni i dystiolaethu’n drylwyr?

4 Weithiau, oherwydd diffyg hyder, fe allwn ni ymatal rhag tystiolaethu. Wrth gwrs, mae Jehofah yn deall bod terfyn ar ein gallu. (Salm 103:14) Serch hynny, pan gawn ni’r cyfle i dystiolaethu, fe allwn ni weddïo am help Jehofah i siarad yn ddewr. (Act. 4:29, 31) Hefyd, wrth astudio Gair Duw a myfyrio arno, rydyn ni’n dod i werthfawrogi rhagoriaeth y newyddion da. (Phil. 3:8) Yna, fe fyddwn ni’n awyddus i’w cyhoeddi’n selog!

5. Sut gallwn ni gael rhan yn y gwaith o gyflawni proffwydoliaeth Joel?

5 Rhagfynegodd y proffwyd Joel na fyddai pobl Dduw yn gadael i unrhyw beth eu hatal rhag pregethu yn y cyfnod cyn i ddydd mawr Jehofah ddod. (Joel 2:2, 7-9) Chawn ni byth mo’r cyfle i gymryd rhan yn y gwaith hwn eto. Felly, gadewch inni wneud popeth y gallwn ni nawr!

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu