A Fyddech Chi’n Elwa ar Gael Tiriogaeth Bersonol?
1. Beth yw tiriogaeth bersonol?
1 Beth yw tiriogaeth bersonol? Mewn cynulleidfaoedd sydd â llawer o diriogaeth, fe allwch chi gael map personol i’w weithio, efallai un sy’n agos at eich cartref. Mae’r llyfr Organized, ar dudalen 103, yn dweud: “Bydd cael tiriogaeth sy’n lleol i chi yn eich helpu chi i ddefnyddio eich amser yn ddoeth yn y weinidogaeth. Efallai y gallwch chi ofyn i gyhoeddwr arall weithio eich tiriogaeth bersonol gyda chi.”
2. Ar ben cefnogi’r trefniadau grŵp, sut gallwch chi ddefnyddio tiriogaeth bersonol?
2 Yn Ychwanegol i Dystiolaethu Mewn Grŵp: Os ydych chi’n cael tiriogaeth bersonol wrth ymyl eich gweithle, gallwch wneud tipyn o weinidogaeth yn ystod eich amser cinio neu ar eich ffordd adref. Efallai y byddai cyhoeddwr arall sy’n gweithio gerllaw yn medru ymuno â chi. Fe all tiriogaeth sy’n agos at eich cartref fod yn ddefnyddiol i chi a’ch teulu ar gyfer tystiolaethu gyda’r nos. Wrth gwrs, os nad ydych yn mynd i’r cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth, addas fyddai gofyn am fendith Jehofah cyn ichi ddechrau pregethu. (Phil. 4:6) Dylech chi gadw cydbwysedd rhwng yr amser rydych chi’n ei dreulio yn gweithio eich tiriogaeth bersonol a’r amser rydych chi’n ei dreulio yn cefnogi trefniadau’r gynulleidfa. Yn ystod y penwythnos, pan fo llawer yn cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth, peth da fyddai cefnogi trefniadau eich grŵp.
3. Beth yw manteision cael tiriogaeth bersonol?
3 Manteision: Os oes gennych chi diriogaeth bersonol, mae modd ichi bregethu pryd bynnag y mae hi’n gyfleus ichi. Gallwch dreulio mwy o amser yn pregethu a llai o amser yn teithio. Gall hyn ganiatáu i rai arloesi’n gynorthwyol neu’n barhaol. Gan fod y rhai sy’n dangos diddordeb yn byw yn yr un ardal â chi, haws fyddai galw’n ôl ac astudio’r Beibl gyda nhw. Mae llawer yn teimlo bod gweithio tiriogaeth bersonol yn eu helpu nhw i ddod i adnabod y bobl yn well ac i ennill eu parch, yn enwedig os yw’n bosibl gweithio’r diriogaeth honno fwy nag unwaith cyn ei rhoi yn ei hôl. A fyddai gweithio tiriogaeth bersonol yn eich helpu chi a’ch teulu i gyflawni holl ofynion eich gweinidogaeth?—2 Tim. 4:5.