“Carwch Deulu’r Ffydd”
Cafodd y geiriau ysbrydoledig hyn eu hysgrifennu bron dwy fil o flynyddoedd yn ôl. (1 Pedr 2:17) Ond mae rhoi’r geiriau hyn ar waith yn bwysicach nawr nag erioed! Sut medrwn ni garu rhywbeth mor fawr â’n brawdoliaeth fyd-eang? Mewn byd heb gariad, sut gallwn ni sicrhau na fydd ein cariad yn oeri? (Math. 24:12) Wrth ichi wylio’r DVD Our Whole Association of Brothers, gwrandewch am yr atebion i’r cwestiynau canlynol:
(1) Pryd y daethon ni’n rhan o’r frawdoliaeth Gristnogol? (2) Pa dri pheth y mae pawb sydd yn rhan o’r frawdoliaeth fyd-eang yn eu gwneud? (3) Sut mae ein brodyr yn dangos eu bod nhw’n benderfynol o bregethu (a) yn ardaloedd anghysbell Alasga, (b) ym mhorthladdoedd mawr Ewrop, ac (c) yng nghoedwigoedd trwchus Periw? (4) Beth sydd mor arbennig am ein gwaith pregethu? (5) Rhowch enghreifftiau o sut mae Tystion Jehofah wedi cysuro a chefnogi ei gilydd (a) ar ôl daeargryn, (b) ar ôl corwynt, ac (c) yn ystod rhyfel cartref? (6) Ym mha ffyrdd ymarferol y medrwn ni i gyd ddangos y cariad sy’n nodweddu ein brawdoliaeth Gristnogol? (Ioan 13:35) (7) Beth yw’r manteision o weithio gyda’n gilydd i adeiladu Neuaddau’r Deyrnas? (8) Sut arhosodd ein brodyr yn agos at Jehofah tra oedd y gwaith o dan waharddiad yn Nwyrain Ewrop a Rwsia? (9) Pa ymdrech y mae llawer o Dystion yn ei gwneud er mwyn mynychu cynadleddau, a pham? (10) Sut mae’r DVD wedi gwneud ichi deimlo’n fwy penderfynol (a) o addoli Jehofah yn y cyfarfodydd gyda’ch brodyr, (b) o helpu eraill pan fo’r angen, ac (c) o bregethu’n ffyddlon pryd bynnag a sut bynnag y medrwch? (11) Sut a phryd y medrwn ni ddefnyddio’r DVD yn y weinidogaeth?
Y prif reswm ein bod ni’n perthyn i’r frawdoliaeth Gristnogol yw ein cariad tuag at Jehofah. Felly, rydyn ni’n awyddus i ddysgu am Jehofah ac yna i ddysgu eraill amdano. Ac rydyn ni’n caru’r rhai y mae Jehofah yn eu caru. Dydyn ni ddim yn disgwyl i Dduw ddiolch inni am yr help rydyn ni’n ei roi i eraill. I’r gwrthwyneb, rydyn ni’n diolch iddo ef am roi inni’r fath frawdoliaeth Gristnogol. Yn ystod dyddiau diwethaf y byd digariad hwn, gadewch inni ddal ati i ddangos cariad tuag at bawb sydd yn rhan o’r frawdoliaeth fyd-eang!