Cyhoeddiadau
◼ Ionawr a Chwefror: Gellir defnyddio llyfryn o’r rhestr ganlynol: Beth Sy’n Digwydd Inni Pan Rydym Yn Marw?, neu Dod Yn Ffrind i Dduw! Wrth fynd yn ôl, ystyriwch anghenion y person a dangoswch y llyfr Beibl Ddysgu neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth. Eich nod fydd dechrau astudiaeth. Mawrth ac Ebrill: Ydy Duw Yn Gwir Ofalu Amdanon Ni? Wrth fynd yn ôl, ystyriwch anghenion y person a chyflwynwch naill ai’r llyfr Beibl Ddysgu, neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, gyda’r nod o ddechrau astudiaeth.
◼ Ar gyfer ail hanner blwyddyn wasanaeth 2013, bydd arolygwr y gylchdaith yn rhoi anerchiad cyhoeddus sy’n dwyn y teitl: “Good News . . . to Every Nation, and Tribe, and Tongue.”
◼ Y ddogfen Advance Decision to Refuse Specified Medical Treatment: Os yw pedair blynedd wedi mynd heibio ers i gyhoeddwyr wneud eu dogfen Advance Decision, fe ddylen nhw gwblhau un newydd. Mae’r dogfennau ar gael wrth y cownter llenyddiaeth.
◼ Pregethu ar Wyliau yn 2013: Hoffwn ni ddiolch i’r 1,123 o frodyr a chwiorydd a ddefnyddiodd eu gwyliau i bregethu yn Iwerddon ac ym Mhrydain yn ystod y flwyddyn wasanaeth ddiwethaf. Treuliodd dau deulu gyfnod o dri mis ar ynysoedd yn yr Alban ac fe wnaethon nhw fwynhau’r profiad yn fawr iawn. Os hoffech chi fynd i bregethu mewn tiriogaethau yn yr Alban, Iwerddon (Gogledd a De), Cymru, neu yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig, dylech chi ofyn i ysgrifennydd eich cynulleidfa am daflen wybodaeth a holiadur. Nid oes angen cysylltu â’r swyddfa gangen. Ar ôl ichi gwblhau’r holiadur, dylech ei roi i bwyllgor gwasanaeth y gynulleidfa i’w gymeradwyo. Bydd y pwyllgor gwasanaeth yn ei anfon ymlaen i’r swyddfa gangen a bydd y swyddfa gangen yn anfon llythyr gydag aseiniad. Mae tiriogaethau ar gael, yn agos ac yn bell, drwy’r flwyddyn, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb a all helpu.