LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 3/13 tt. 7-8
  • Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol
  • Ein Gweinidogaeth—2013
Ein Gweinidogaeth—2013
km 3/13 tt. 7-8

Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol

Annwyl Frodyr a Chwiorydd:

Ein Tad nefol, Jehofah, yw’r esiampl orau o ddangos cariad. Dywed y Beibl: “Cariad yw Duw.” (1 Ioan 4:8) Er bod Jehofah yn Hollalluog, nid yw’r Beibl byth yn dweud “Grym yw Duw.” Mae Duw yn rheoli ar sail cariad. Onid yw hyn yn ein denu ni tuag ato?

Wrth gwrs, nid yw Jehofah yn ein gorfodi ni i’w wasanaethu. Nid unben creulon mohono. Mae Jehofah yn dymuno inni ei wasanaethu oherwydd cariad. Trwy wneud hyn, rydyn ni’n dangos ein bod ni o blaid y ffordd y mae Duw yn rheoli oherwydd bod hynny’n gyfiawn a chariadus. Mae hyn wedi bod yn amlwg o’r cychwyn cyntaf.

Yn hytrach na gorfodi Adda ac Efa i fod yn ufudd iddo, caniataodd Jehofah iddyn nhw ddewis drostyn nhw eu hunain. Pe bydden nhw wedi caru Jehofah o’u calonnau a gwerthfawrogi popeth yr oedd wedi ei wneud drostyn nhw, ni fydden nhw wedi ildio i berswâd Satan a gwrthryfela yn erbyn Jehofah.

Yn nes ymlaen, wrth iddo roi ei araith olaf i genedl Israel, fe ddywedodd Moses: “Edrych, yr wyf am roi’r dewis iti heddiw rhwng bywyd a marwolaeth, rhwng daioni a drygioni.” (Deut. 30:15) Roedd y bobl yn rhydd i ddewis eu ffordd eu hunain. Yn yr un modd, dywedodd Josua wrth yr Israeliaid: “Oni ddymunwch wasanaethu’r ARGLWYDD, dewiswch ichwi’n awr pwy a wasanaethwch.” Ateb y bobl oedd: “Pell y bo oddi wrthym adael yr ARGLWYDD.” (Jos. 24:15, 16) Dyna sut rydyn ni’n teimlo hefyd. Oherwydd ein cariad, ni fyddai gadael Jehofah hyd yn oed yn croesi ein meddyliau.

Rydyn ni fel gwir Gristnogion yn deall yn iawn beth mae ewyllys rhydd yn ei olygu. Mae gan yr henuriaid awdurdod i roi cyngor ac i ddisgyblu, ond dydyn nhw ddim yn ceisio rheoli bywydau a ffydd pobl eraill. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Nid ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi. Cydweithio â chwi yr ydym er eich llawenydd, trwy’r ffydd yr ydych yn sefyll yn gadarn ynddi.”—2 Cor. 1:24.

Gymaint yn well yw gwneud rhywbeth o’n gwirfodd yn hytrach na chael ein gorfodi i’w wneud! Mae Jehofah yn ein gwahodd ni i wneud yr hyn sy’n iawn a hynny ar sail cariad. Mae geiriau ysbrydoledig Paul yn dangos pa mor bwysig yw hyn: “Os rhof fy holl feddiannau i borthi eraill, ac os rhof fy nghorff yn aberth, a hynny er mwyn ymffrostio, a heb fod gennyf gariad, ni wna hyn ddim lles imi.”—1 Cor. 13:3.

Llawenydd a chlod mawr i Jehofah yw gweld miliynau o’n brodyr a’n chwiorydd yn ei wasanaethu o wirfodd eu calonnau!

Mae Jehofah, yn ei dro, yn caru pob un o’i weision, gan gynnwys chi blant a phobl ifanc sy’n dangos eich bod chi’n caru Jehofah yn hytrach na’r byd a’i bethau. Cofiwch ein bod ninnau hefyd yn eich caru chi.—Luc 12:42, 43.

Llynedd, oherwydd cariad tuag at Jehofah, fe wnaethoch chi frodyr, chwiorydd, a phobl ifanc dreulio 1,748,697,447 o oriau’n cyhoeddi’r newyddion da. Cariad a oedd yn gyfrifol am ysgogi 7,782,346 i gael rhan yn y weinidogaeth trwy’r byd i gyd. Rydyn ni’n llawenhau wrth groesawu 268,777 o rai newydd sydd wedi ymgysegru a chael eu bedyddio, a llawer o bobl ifanc yn eu plith. Mae hyn yn golygu bod 5,168 o bobl, ar gyfartaledd, wedi eu bedyddio bob penwythnos. Mae hyn i gyd yn cyffwrdd â’n calonnau!

Mae pobl Dduw yn ymdopi â llawer o broblemau yn y dyddiau diwethaf hyn. Mae rhai’n wynebu erledigaeth, salwch, a henaint. Ond rydyn ni’n benderfynol na fyddwn ni byth yn “cilio’n ôl” nac “yn digalonni.” Rydyn ni yn eich caru chi yn fawr iawn.—Heb. 10:39; 2 Cor. 4:16.

Eich brodyr,

Corff Llywodraethol Tystion Jehofah

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu