LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 8/13 t. 3
  • Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth
  • Ein Gweinidogaeth—2013
Ein Gweinidogaeth—2013
km 8/13 t. 3

Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth

Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu trafod yn Ysgol y Weinidogaeth yn ystod yr wythnos yn cychwyn Awst 26, 2013. Rhoddir y dyddiad y bydd pob cwestiwn yn cael ei drafod fel y gellir gwneud ymchwil wrth baratoi ar gyfer yr ysgol bob wythnos.

1. Pa wers bwysig gallwn ni ei dysgu o barodrwydd y Brenin Herod i dderbyn clod a bri gormodol gan ddynion? (Act. 12:21-23) [Gorff. 1, w08-E 5/15 t. 32 par. 7]

2. Sut y gall Cristnogion ifanc elwa ar astudio esiampl Timotheus a’i dilyn? (Act. 16:1, 2) [Gorff. 8, w08-E 5/15 t. 32 par. 10]

3. Ar ôl clywed Apolos yn ‘llefaru’n hy’ yn synagog Effesus, sut rhoddodd Priscila ac Acwila gymorth cariadus iddo? (Act. 18:24-26) [Gorff. 15, w10-E 6/15 t. 11 par. 4]

4. Pa sail ysgrythurol sydd yna i Dystion Jehofah ddefnyddio llysoedd y wlad i amddiffyn eu hawliau i bregethu? (Act. 25:10-12) [Gorff. 22, bt-E t. 198 par. 6]

5. Sut gwnaeth yr apostol Paul ddarganfod ffyrdd o dystiolaethu hyd yn oed tra oedd yn garcharor yn Rhufain, a sut mae gweision Jehofah yn dilyn ei esiampl heddiw? (Act. 28:17, 23, 30, 31) [Gorff. 29, bt-E tt. 215-217 par. 19-23]

6. Pam mae’r Beibl yn condemnio gweithredoedd hoyw ac yn eu galw yn annaturiol ac yn fryntni, neu rywbeth afiach? (Rhuf. 1:26, 27) [Awst 5, g-E 1/12 t. 28 par. 7]

7. Sut gallai’r ‘brynedigaeth’ neu’r pridwerth a dalodd Iesu yn 33 OG ddileu ‘pechodau’r gorffennol,’ hynny yw, pechodau a ddigwyddodd cyn i’r pridwerth cael ei dalu? (Rhuf. 3:24, 25) [Awst 5, w08-E 6/15 t. 29 par. 6]

8. Pa ddarpariaeth gariadus y mae Jehofah wedi ei gwneud ar gyfer adegau pan mae sefyllfaoedd yn codi sydd yn ein drysu’n lân, a ninnau ar goll ynglŷn â beth i weddïo amdano? (Rhuf. 8:26, 27) [Awst 12, w08-E 6/15 t. 30 par. 10]

9. Beth yw ystyr yr ymadrodd: “Byddwch barod eich lletygarwch”? (Rhuf. 12:13) [Awst 19, w09-E 10/15 tt. 5-6 par. 12-13]

10. Sut ydyn ni’n ‘gwisgo’r Arglwydd Iesu Grist,’ fel awgrymodd Paul? (Rhuf. 13:14) [Awst 26, w05-E 1/1 tt. 11-12 par. 20-22]

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu