Dilynwch Esiamplau’r Proffwydi—Amos
1. Sut gall ystyried esiampl Amos codi ein calon?
1 Ydych chi erioed wedi teimlo’n anghymwys i bregethu oherwydd diffyg addysg neu eich cefndir cyffredin? Os ydych, bydd esiampl Amos yn codi eich calon. Bugail a gweithiwr tymhorol oedd Amos, ond rhoddodd Jehofah rym iddo gyhoeddi neges hynod o bwysig. (Amos 1:1; 7:14, 15) Yn yr un modd, mae Jehofah yn defnyddio pobl ostyngedig heddiw. (1 Cor. 1:27-29) Pa wersi eraill y gallwn ni eu dysgu gan Amos ar gyfer ein gweinidogaeth?
2. Pam y gallwn ni aros yn gadarn er gwaethaf gwrthwynebiad yn y weinidogaeth?
2 Arhoswch yn Gadarn er Gwaethaf Gwrthwynebiad: Offeiriad oedd Amaseia ac roedd yn addoli lloi yn nheyrnas deg llwyth gogledd Israel. Pan glywodd ef Amos yn proffwydo, atebodd rhywbeth yn debyg i hyn: ‘Dos adre! Gad lonydd inni! Mae gennyn ni grefydd ein hunain!’ (Amos 7:12, 13) Pan oedd yn apelio at Frenin Jeroboam i wahardd gwaith Amos, camddefnyddiodd Amaseia eiriau’r proffwyd. (Amos 7:7-11) Ond nid oedd hyn yn codi ofn ar Amos. Heddiw, mae rhai arweinwyr crefyddol yn ceisio cefnogaeth wleidyddol yn eu hymdrechion i erlid pobl Jehofah. Ond mae Jehofah yn ein sicrhau ni na fydd unrhyw arf a luniwyd yn ein herbyn yn llwyddo’n barhaol.—Esei. 54:17.
3. Pa neges gyda dwy agwedd iddi rydyn ni’n ei chyhoeddi heddiw?
3 Cyhoeddwch Farn Duw a’r Bendithion i Ddod: Rhagfynegodd Amos farnedigaeth yn erbyn teyrnas Israel. Eto, fe orffennodd ei lyfr Beiblaidd gydag addewid Jehofah. Fe addawodd lawer o fendithion ac fe addawodd adfer ei bobl. (Amos 9:13-15) Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi ‘dydd barn’ Duw sydd i ddod, ond dim ond rhan o newyddion da’r Deyrnas yw hyn. (2 Pedr 3:7; Math. 24:14) Wrth ddinistrio’r bobl ddrwg yn ystod Armagedon, bydd Jehofah yn paratoi’r ddaear ar gyfer paradwys.—Salm 37:34.
4. Pa hyder mae esiampl Amos yn ei rhoi inni?
4 Mae cyhoeddi neges y Deyrnas mewn byd sy’n llawn gwrthwynebwyr yn rhoi prawf ar ein penderfyniad i fyw yn ôl ein hymgysegriad i Jehofah ac i wneud ei ewyllys. (Ioan 15:19) Er hynny, rydyn ni’n sicr y bydd Jehofah yn rhoi’r hyn rydyn ni ei angen er mwyn cyflawni ei ewyllys, fel yn achos Amos.—2 Cor. 3:5.