Cyhoeddiadau
◼ Y cynnig ar gyfer Medi a Hydref: Byddwch Wyliadwrus! neu Dod yn Ffrind i Dduw! Tachwedd a Rhagfyr: Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
◼ Bydd yr anerchiad cyhoeddus arbennig ar gyfer tymor y Goffadwriaeth 2014 yn cael ei draddodi yn ystod wythnos Ebrill 21. Cyhoeddir testun yr anerchiad maes o law. Os bydd arolygwr y gylchdaith yn ymweld â’r gynulleidfa neu os bydd cynulliad yr wythnos honno, cynhelir yr anerchiad arbennig yr wythnos wedyn. Ni ddylai’r un gynulleidfa drefnu i gael yr anerchiad arbennig cyn Ebrill 21.
◼ Dylai henuriaid gysylltu â’r Pwyllgor Adeiladu Rhanbarthol cyn dechrau adeiladu Neuadd y Deyrnas neu ei hadnewyddu. Mae’r Pwyllgorau Adeiladu Rhanbarthol yn gallu helpu cynulleidfaoedd i wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â phrynu tir ac adnoddau, ac maen nhw’n gallu arwain y brodyr ar faterion eraill hefyd. Peth doeth yw ystyried cynigion pwyllgorau rhanbarthol cyn prynu adeilad neu dir, a hyd yn oed pethau fel system gwres, cadeiriau, papur wal, a charpedi.
◼ Cynhaliwyd seremoni graddio ar gyfer y trydydd dosbarth o’r Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Cristnogion Priod ar 18 Mai, 2013 yn Neuadd y Deyrnas Clondalkin, Dulyn, yn Iwerddon. Gwelodd 202 o bobl a oedd yn bresennol 12 cwpl yn graddio ac yn derbyn nifer o wahanol aseiniadau.