Cyfarwyddyd ar Gyfer Eitemau yn y Cyfarfod Gwasanaeth
Mae pob eitem yn y Cyfarfod Gwasanaeth yn cynnwys cyfarwyddyd ar sut y dylai ei chyflwyno. Mae’r arweiniad yn helpu’r brodyr i gyflwyno eitemau amrywiol mewn ffordd effeithiol. Bydd y cyfarwyddyd canlynol yn egluro ystyr yr eirfa a therminoleg a ddefnyddir yn Ein Gweinidogaeth.
◼ Anerchiad: Mae hyn yn cyfeirio at araith sy’n seiliedig ar yr wybodaeth aseiniedig, heb unrhyw gyfranogiad gan y gynulleidfa. Dylai’r siaradwr ganolbwyntio ar yr hyn a fydd yn fwyaf defnyddiol i’r gynulleidfa.
◼ Cwestiynau ac Atebion: Yn debyg i Astudiaeth y Watchtower, mae’r cyflwyniad a’r diweddglo yn fyr iawn, ac mae cwestiynau yn cael eu gofyn ar bob paragraff. Dylai’r arweinydd osgoi siarad gormod. Gellir darllen adnodau allweddol fel bydd yr amser yn caniatáu. Nid oes angen darllen y paragraffau oni bai bod arweiniad i wneud fel arall.
◼ Trafodaeth: Mae’r anerchiad hwn yn cynnwys rywfaint o gyfraniad gan y gynulleidfa. Nid anerchiad yn unig yw hwn, nac yn gwestiynau ac atebion i gyd, ond mae’n gymysgedd o’r ddau.
◼ Dangosiadau a Chyfweliadau: Mae’r cyfarwyddyd i gael dangosiad yn golygu bod y brawd gyda’r eitem yn gyfrifol am drefnu dangosiad; nid oes angen iddo ef ei hun gwneud y dangosiad. Dylai’r rhai y mae’n ei ddewis fod yn esiamplau da a chyda’r gallu i wneud y dangosiad. Os yw’n bosibl, dylai’r brawd drefnu iddyn nhw ei wneud hyn ymhell o flaen llaw. Byddai’n well peidio â defnyddio cyhoeddwyr newydd neu amhrofiadol ar gyfer y dangosiad dim ond i roi cyfle iddyn nhw gael eu defnyddio ar y llwyfan, ond fe gewch eu defnyddio fel deiliaid. Dylai cyhoeddwyr sy’n gwneud cyflwyniad sicrhau eu bod nhw’n wynebu’r gynulleidfa. Mewn cyfweliadau, dylai’r cyhoeddwyr fynd i’r llwyfan i roi eu sylwadau yn hytrach na gwneud hynny o’u seddi. Dylid ymarfer cyfweliadau a dangosiadau. Petai’r cyfarfod yn rhedeg yn hwyr ac mae angen i frawd fyrhau ei eitem, dylai osgoi hepgor y dangosiadau neu’r cyflwyniadau. Dylai gweision gweinidogaethol drafod â chydlynydd y corff henuriaid, neu henuriad arall, pwy y mae’n bwriadu ei ddewis o flaen llaw.
Petai gan eitem unigryw arweiniad arbennig, dylid dilyn y cyfarwyddyd yn fanwl. Drwy ddilyn y cyfarwyddyd uchod ynglŷn â’r Cyfarfod Gwasanaeth, byddai’r brodyr yn helpu i wneud “popeth yn weddus ac mewn trefn.”—1 Cor. 14:40.