Cyhoeddiadau
◼ Y cynnig ar gyfer Ionawr a Chwefror: Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! Mawrth ac Ebrill: Ydy Duw yn Gwir Ofalu Amdanon Ni? neu Dod yn Ffrind i Dduw!
◼ Y ddogfen Advance Decision to Refuse Specified Medical Treatment: Os yw pedair blynedd wedi mynd heibio ers i gyhoeddwyr wneud eu dogfen Advance Decision, fe ddylen nhw gwblhau un newydd. Mae’r dogfennau ar gael wrth y cownter llenyddiaeth.
◼ Cynhaliwyd seremoni graddio ar gyfer y pumed dosbarth o’r Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Cristnogion Priod ar 5 Hydref, 2013 yn Neuadd y Deyrnas Clondalkin, Dulyn, yn Iwerddon. Gwelodd 200 o bobl a oedd yn bresennol 12 cwpl yn graddio ac yn derbyn nifer o wahanol aseiniadau.
◼ Ysgol Arloesi: Eleni, cafodd 65 o ysgolion eu cynnal ym Mhrydain ac Iwerddon, mwy nag erioed. Cofrestrwyd 2,366 o fyfyrwyr. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr ysgolion, un ai drwy roi lletygarwch, neu drwy helpu mewn unrhyw fodd arall.