Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol
Annwyl Gyd-weithwyr:
Rydyn ni wrth ein boddau yn ysgrifennu atoch ar ddechrau’r flwyddyn hanesyddol hon! Erbyn diwedd 2014, bydd canrif gyfan wedi mynd heibio ers i’n Brenin Iesu Grist ddechrau rheoli yng nghanol ei elynion.—Salm 110:1, 2.
Yn ystod cyfarfod blynyddol y Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania, a gafodd ei gynnal yn gynnar yn y flwyddyn wasanaeth hon, cyhoeddodd Pwyllgor Cyfieithu’r Beibl fersiwn diwygiedig o’r New World Translation yn Saesneg. Hwn yw’r cyfieithiad gorau sydd ar gael heddiw! Defnyddiodd Jehofah ei feibion eneiniog ei hun i ddarparu’r New World Translation gwreiddiol. (Rhuf. 8:15, 16) Onid ydych yn cytuno bod y ffaith honno yn gwneud y cyfieithiad hwn yn un arbennig?
Am lawer o flynyddoedd, mae’r Pwyllgor Ysgrifennu wedi rhoi blaenoriaeth i’r gwaith o gyfieithu’r Beibl. Heddiw, mae’r New World Translation ar gael, yn gyfan neu’n rhannol, mewn 121 o ieithoedd. Rydyn ni’n eich argymell chi i ddangos i Jehofah gymaint yr ydych chi yn gwerthfawrogi’r Beibl sydd gennych. Darllenwch y Beibl, a myfyriwch ar ei neges bob dydd. Trwy wneud hyn, byddwch chi’n nesáu at yr Awdur, Jehofah Dduw.—Iago 4:8.
Rydyn ni’n teimlo’n arw dros ein brodyr a’n chwiorydd annwyl wrth inni glywed am y problemau y maen nhw’n eu hwynebu. Rydyn ni’n deall ei bod hi’n anodd iddyn nhw lawenhau gyda’u cyd-addolwyr ar adegau. Er enghraifft, aeth bywydau un teulu yn Asia ar chwâl yn ddiweddar pan, yn sydyn iawn, cafodd y fam ei pharlysu’n llwyr. Roedd y meddygon wedi drysu’n lân, ac nad oedden nhw’n gallu iacháu’r chwaer. Roedd y sefyllfa yn drist iawn! Nawr, mae’r gŵr yn gofalu am ei wraig ddydd a nos. Mae eu mab a’u dwy ferch yn gosod esiamplau da fel Cristnogion drwy roi cefnogaeth gariadus i’w rhieni. Gall y teulu hwn, ynghyd â phawb sydd wedi llwyddo i ddelio gyda gwahanol broblemau, deimlo’r llawenydd sy’n dod i’w rhan drwy ddyfalbarhau er gwaethaf profion ar eu ffydd. (Iago 1:2-4) Mae Jehofah wedi sicrhau’r eneiniog a’r defaid eraill y bydd dal ati yn wyneb anawsterau yn eu gwneud nhw’n hapus oherwydd y bydden nhw’n cael eu bendithio gyda bywyd tragwyddol!—Iago 1:12.
Llynedd, daeth 19,241,252 i’r Goffadwriaeth. Mae hi mor galonogol i weld cymaint yn clodfori Jehofah a Iesu drwy fynychu cyfarfod pwysicaf y flwyddyn i bobl Dduw! Yn ystod tymor y Goffadwriaeth, sef Mawrth ac Ebrill, cafodd Jehofah ei glodfori gyda thros ddwy filiwn yn arloesi’n gynorthwyol. Onid ydy hynny yn ein hysbrydoli ni? A oeddech chi’n falch o glywed bod y rhai sy’n arloesi’n gynorthwyol yn ystod ymweliad arolygwr y gylchdaith yn cael mynychu’r cyfarfod llawn ar gyfer arloeswyr, hyd yn oed os nad yw’r ymweliad yn digwydd yn ystod Mawrth ac Ebrill? Mae pobl sy’n ysbrydol ddoeth yn deall pwysigrwydd dal ati yn y gwaith pregethu, ac yng ngweithgareddau’r gynulleidfa. Mae bod yn brysur yn ein helpu ni i aros yn gadarn a diysgog, gan drechu ymdrechion y Diafol i’n gwanhau ac i’n taro ni oddi ar ein llwybr.—1 Cor. 15:58.
Calonogol iawn yw gwybod bod 277,344 wedi cael eu bedyddio yn ystod y flwyddyn wasanaeth ddiwethaf, a nawr y maen nhw ar y ffordd i fywyd ynghyd â’u brodyr sy’n byw ledled y byd! (Math. 7:13, 14) Mae angen cefnogaeth ar y rhai newydd er mwyn iddyn nhw ddod yn ‘gadarn yn y ffydd.’ (Col. 2:7) Felly, parhewch i galonogi eich gilydd er mwyn dyfalbarhau hyd y diwedd. (Math. 24:13) “Cysurwch y gwangalon, cynorthwywch y rhai eiddil, byddwch yn amyneddgar wrth bawb.” (1 Thes. 5:14) Ac i gloi, gadewch i bob un ohonon ni ‘weddïo yn ddi-baid’ gan ddweud: “Deled dy Deyrnas.”—1 Thes. 5:17; Math. 6:10.
Mwynhewch ddarllen yr Yearbook hwn, a chofiwch ein bod ni’n caru pob un ohonoch chi sy’n caru Jehofah!
Eich brodyr,
Corff Llywodraethol Tystion Jehofah