Caneuon Newydd ar Gyfer Addoli!
1 Ar 4 Hydref, 2014, yng nghyfarfod blynyddol y Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania, fe gyhoeddwyd bod ein llyfr caneuon yn mynd i gael ei ddiwygio. Cyffrous iawn oedd clywed y newyddion hynny! Cafodd pawb a fynychodd y cyfarfod eu hatgoffa o bwysigrwydd caneuon y Deyrnas yn ein haddoliad.—Salm 96:2.
2 Efallai rydych yn gofyn, ‘Pam mae angen diwygio’r llyfr caneuon?’ Mae sawl rheswm. Yn gyntaf, mae ein dealltwriaeth o’r Ysgrythurau yn cael ei choethi o hyd ac o hyd, ac mae hynny’n gallu dylanwadu ar eiriau ein caneuon. (Diar. 4:18) Oes rheswm arall am y diwygio? Mae’r eirfa a llawer o’r ymadroddion a ddefnyddir yn y llyfr caneuon Saesneg yn seiliedig ar y fersiwn blaenorol o’r New World Translation. Nawr, mae angen addasu’r caneuon er mwyn cyd-fynd â’r argraffiad diwygiedig o’r Beibl Saesneg. Oherwydd bod diwygio’r geiriau yn gofyn am waith sylweddol, penderfynwyd ychwanegu ychydig o ganeuon newydd i’r llyfr ar yr un pryd.
3 A fydd rhaid inni aros tan y mae llyfr caneuon newydd yn cael ei argraffu cyn inni ddechrau defnyddio’r caneuon newydd? Na fydd. Rydyn ni’n hapus i roi gwybod ichi y bydd sawl cân newydd yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan, jw.org dros y misoedd nesaf. Pan fydd cân newydd yn cael ei rhyddhau, bydd honno’n cael ei defnyddio i gloi’r Cyfarfod Gwasanaeth. Bydd nodyn yn dweud “cân newydd” yn rhaglen Ein Gweinidogaeth.
4 Ewch Ati i Ddysgu’r Caneuon Newydd: Gall dysgu caneuon newydd fod yn her. Ond, yn union fel y salmydd, rydyn ninnau hefyd eisiau canu o’n calonnau yn ein cyfarfodydd yn hytrach na chanu’n ddistaw bach. (Salm 33:3) Er mwyn dysgu cân newydd, dilynwch y camau syml hyn.
Bydd cyfeiliant piano’r gân wedi ei roi ar ein gwefan, felly gwrandewch arno drosodd a throsodd. Mwyaf yn y byd rydych yn clywed yr alaw, mwyaf yn y byd y byddwch yn ei chofio.
Astudiwch y geiriau a cheisiwch eu dysgu ar gof.
Canwch y geiriau. Gwnewch hyn nes ichi feistroli’r gân.
Canwch y caneuon newydd sawl gwaith yn eich Addoliad Teuluol nes i’ch teulu deimlo’n hyderus.
5 Yn ystod y misoedd nesaf, pan fydd cân newydd yn cloi’r Cyfarfod Gwasanaeth, bydd y gynulleidfa’n gwrando ar y recordiad piano unwaith. Yna, bydd y gynulleidfa’n canu gyda’r cyfeiliant piano, fel rydyn ni’n gwneud gyda’n caneuon eraill.
6 Rydyn ni wrth ein boddau yn canu a moli Duw gyda’n gilydd! Felly, pan fydd caneuon yn cael eu cyflwyno yn ein cyfarfodydd Cristnogol, peidiwch â gadael eich seddi’n ddiangen.
7 Gallwn ddangos ein gwerthfawrogiad am ein cerddoriaeth sanctaidd mewn ffordd arall hefyd. Chwaraeir cerddoriaeth cyn i’r sesiynau gychwyn yn ein cynadleddau a’n cynulliadau. Ddwywaith y flwyddyn, mae brodyr a chwiorydd yn teithio o bedwar ban y byd i Patterson, Efrog Newydd, a hynny er mwyn creu cerddoriaeth hyfryd ar gyfer ein haddoliad. Felly, pan fydd y cadeirydd yn gofyn inni eistedd a gwrando ar y gerddoriaeth, dylen ni wneud hynny. Bydd gwneud hyn yn paratoi ein calonnau ar gyfer y wybodaeth sy’n dilyn.
8 Heddiw, byddwn ni’n cloi ein cyfarfod gyda chân newydd sydd â’r teitl “Mae’r Deyrnas Wedi ei Sefydlu—Gad Iddi Ddod!” Cafodd y gân hon ei chwarae yn y cyfarfod blynyddol eleni, ac fe’i chyfansoddwyd i ddathlu canmlwyddiant teyrnasiad Crist.
9 Yn bendant, mae’r caneuon newydd yn “bethau da” gan Jehofa. (Math. 12:35a) Gadewch inni fod yn benderfynol o ddysgu’r caneuon newydd a’u canu o’n calonnau, gan roi i Dduw y moliant y mae’n ei haeddu!—Salm 147:1.