Cyhoeddiadau
◼ Cynnig y mis ar gyfer Mehefin: Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? neu un o’r taflenni hyn: (T-30) Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Beibl?, (T-31) Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?, (T-32) Beth Sy’n Gwneud Teulu yn un Hapus?, (T-33) Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?, (T-34) A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth?, neu (T-35) A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto? Gorffennaf ac Awst: Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!, Dod yn Ffrind i Dduw!, neu Llyfr i Bawb. Medi: Y Beibl—Beth Yw Ei Neges? a Beth Sy’n Digwydd Inni Pan ’Rydym yn Marw?
◼ Wrth gwblhau eich adroddiad ar ddiwedd y mis, dylid cofnodi pob taflen a gwahoddiad sy’n cael eu gadael gydag unigolion neu sy’n cael eu rhoi trwy ddrws. Nodwch nhw yn y golofn “Llyfrynnau a Thaflenni.” Pan fydd rhywun yn dangos diddordeb ac yn derbyn llenyddiaeth, hyd yn oed taflen, gwnewch ymdrech i alw yn ôl er mwyn datblygu ei ddiddordeb.