Uchafbwyntiau o’r Maes
Ar ddydd Sul, 8 Mawrth, cafodd seremoni graddio yr Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas ei chynnal yn Nulyn. Roedd 228 yn bresennol i wrando ar y rhaglen galonogol. Yn yr ysgol, roedd 11 cwpl priod, 2 chwaer sengl, a 2 frawd sengl. Roedd cyffro ymysg y gynulleidfa wrth i’r graddedigion dderbyn eu haseiniadau i gynulleidfaoedd ledled Prydain ac Iwerddon. Cafodd eraill aseiniadau i wasanaethu ym Methel, i ofalu am Neuadd Cynulliad, i weithio ar brosiectau adeiladu yn y maes ac yn y gangen newydd.