Canolbwyntio ar Wneud Disgyblion
1. Beth y mae angen ei wneud er mwyn i bobl gael eu hachub?
1 Mae adroddiad blynyddol 2014 o’r weinidogaeth yn adlewyrchu sêl ac ymroddiad pobl Dduw i bregethu’r newyddion da am y Deyrnas. (Math. 24:14) Oherwydd y gwaith pregethu o dŷ i dŷ, yr ymgyrchoedd arbennig er mwyn dosbarthu gwahoddiadau a thaflenni, a’r ymdrechion i bregethu’n gyhoeddus, rydyn ni’n cyrraedd mwy o bobl nag erioed gyda neges y Beibl. Ond, os yw pobl am gael eu hachub, mae angen inni eu helpu nhw i ddod yn ddisgyblion i Grist drwy astudio’r Beibl â nhw.—1 Tim. 2:4.
2. Pa gwestiynau gallwn ni eu gofyn i’n hunain er mwyn bod yn barod i gynnig astudiaethau?
2 Bod yn Barod i Gynnig Astudiaeth: Pan fydd person yn dangos diddordeb, a ydych chi’n ceisio cael ei fanylion cyswllt a galw’n ôl yn brydlon gyda’r bwriad o ddechrau astudiaeth Feiblaidd? Pryd oedd y tro diwethaf ichi geisio dangos beth yw astudiaeth Feiblaidd ar yr alwad gyntaf? Pryd oedd y tro diwethaf ichi gynnig astudiaeth Feiblaidd i’ch galwadau sy’n derbyn y cylchgronau? A ydych chi wedi dangos y fideos Pam Astudio’r Beibl? a Beth Sy’n Digwydd ar Astudiaeth Feiblaidd? i’ch cyd-weithwyr, ffrindiau ysgol, cymdogion, perthnasau, a phobl eraill? Wrth ddefnyddio stondin lyfrau, ydych chi’n gwneud ymdrech i ddangos i’r rhai sy’n cymryd cyhoeddiadau astudio ei bod yn bosibl cael astudiaeth Feiblaidd heb gost?
3. Beth sydd ei angen er mwyn dysgu’r gwirionedd yn llwyddiannus?
3 Cymorth gan Jehofa a Iesu: Drwy ddechrau ei orchymyn i ‘wneud disgyblion’ gyda’r gair “ewch,” dangosodd Iesu y dylen ni wneud ymdrech a bod yn flaengar. Ond, ni wnaeth Iesu ein gadael heb gymorth, fe roddodd addewid y buasai ef gyda ni yn wastad. (Math. 28:19, 20) Hefyd, er mwyn inni ddysgu eraill am y gwirionedd, mae Jehofa wedi rhoi ei ysbryd glân inni, ynghyd â’r adnoddau a’r hyfforddiant sydd eu hangen. (Sech. 4:6; 2 Cor. 4:7) Gallwn weddïo am yr awydd a’r nerth i gymryd rhan yn y gwaith pwysig hwn.—Phil. 2:13.
4. Pam y dylen ni ganolbwyntio ar wneud disgyblion?
4 Mae pregethu’r newyddion da yn dod â llawer o hapusrwydd inni. Ond, mae ein hapusrwydd yn cynyddu wrth inni ddysgu rhywun arall am y gwirionedd a’i helpu i ymuno â ni ar y “ffordd sy’n arwain i fywyd.” (Math. 7:14; 1 Thes. 2:19, 20) Yn bwysicach fyth, drwy ganolbwyntio ar wneud disgyblion, rydyn ni’n plesio Jehofa gan “nad yw’n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch.”—2 Pedr 3:9.