Cyhoeddiadau
◼ Cynnig y mis ar gyfer Medi a Hydref: Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?, Beth Sy’n Digwydd Inni Pan ’Rydym yn Marw? Tachwedd a Rhagfyr: Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? neu Storïau o’r Beibl.
◼ Bydd yr anerchiad cyhoeddus arbennig ar gyfer tymor y Goffadwriaeth 2016 yn cael ei draddodi yn ystod wythnos 28 Mawrth. Cyhoeddir testun yr anerchiad maes o law. Os bydd arolygwr y gylchdaith yn ymweld â’r gynulleidfa bryd hynny neu os bydd cynulliad yr wythnos honno, cynhelir yr anerchiad arbennig yr wythnos wedyn. Ni ddylai’r un gynulleidfa drefnu i gael yr anerchiad arbennig cyn 28 Mawrth.
◼ Oherwydd bod pum penwythnos ym mis Ionawr, fe fydd yn gyfle ardderchog i arloesi’n gynorthwyol.
◼ Ar ddydd Sul, 17 Mai 2015, graddiodd ail ddosbarth yr Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas yn Iwerddon. Cafodd y deg cwpl, dau frawd sengl, a phedwar chwaer sengl, wahanol aseiniadau. Cafodd rhai eu haseinio fel arloeswyr arbennig parhaol neu dros dro mewn cynulleidfaoedd ar draws Prydain ac Iwerddon, mae rhai yn gwasanaethu yn y gwaith o ail-leoli’r Bethel, ac eraill yn parhau gyda’u gwaith yn swyddfa’r gangen.