LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 10/15 tt. 2-3
  • Cyffwrdd â Chalonnau’r Rhai Rydyn Ni’n Eu Dysgu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cyffwrdd â Chalonnau’r Rhai Rydyn Ni’n Eu Dysgu
  • Ein Gweinidogaeth—2015
  • Erthyglau Tebyg
  • Ceisio Cyffwrdd â’r Galon
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
Ein Gweinidogaeth—2015
km 10/15 tt. 2-3

Cyffwrdd â Chalonnau’r Rhai Rydyn Ni’n Eu Dysgu

1. Sut roedd Iesu yn cyffwrdd â chalonnau ei wrandawyr?

1 Roedd Iesu Grist yn cyffwrdd â chalonnau ei wrandawyr. Ar o leiaf un achlysur, roedd calonnau ei ddisgyblion “ar dân” ar ôl iddo egluro’r Ysgrythurau iddyn nhw. (Luc 24:32) Gan fod ufudd-dod i Dduw yn gorfod dod o’r galon, sut gallwn ni brocio emosiynau’r rhai rydyn ni’n eu dysgu er mwyn eu hysgogi nhw i wneud newidiadau yn eu bywydau?​—Rhuf. 6:17.

2. Pa effaith y mae doethineb a thact yn ei chael ar gyffwrdd â chalon rhywun?

2 Defnyddiwch Ddoethineb a Thact: I lawer o bobl, nid yw dweud wrthyn nhw yr hyn sy’n iawn a’r hyn sy’n anghywir yn ddigon i’w sbarduno nhw i weithredu. Yn wir, bydd ymosod ar eu daliadau crefyddol drwy ddarllen llu o adnodau iddyn nhw yn debygol o godi eu gwrychyn. Er mwyn ysgogi person, mae’n rhaid inni yn gyntaf ddeall pam mae’r person hwnnw yn credu ac yn ymddwyn fel y mae. Bydd cwestiynau doeth sy’n gofyn am ei farn yn ei annog i sôn am ei deimladau mwyaf dwfn. (Diar. 20:5) Dim ond wedyn y gallwn ni ddewis pa wybodaeth i drafod er mwyn cyffwrdd â’i galon. Felly, mae angen inni ddangos diddordeb personol a bod yn amyneddgar. (Diar. 25:15) Cofiwch, mae pobl yn gwneud cynnydd ysbrydol yn ôl eu pwysau eu hunain. Rhowch amser i ysbryd glân Jehofa ddylanwadu ar eu meddyliau a’u hymddygiad.​—Marc 4:26-29.

3. Sut gallwn ni helpu’r rhai rydyn ni’n eu dysgu i feithrin rhinweddau da?

3 Helpwch Nhw i Feithrin Rhinweddau Da: Gall adnodau o’r Beibl sy’n dangos daioni a chariad Jehofa helpu’r rhai rydyn ni’n eu dysgu i feithrin rhinweddau da. Gallwn ddefnyddio adnodau fel Salm 139:1-4 neu Luc 12:6, 7 i ddangos i ba raddau y mae Duw yn dangos diddordeb ym mhob un ohonon ni. Pan fydd unigolion yn dod i wir werthfawrogi caredigrwydd anhaeddiannol Duw, bydd eu cariad a’u ffyddlondeb tuag ato yn dyfnhau. (Rhuf. 5:6-8; 1 Ioan 4:19) Hefyd, pan fydden nhw’n dysgu bod eu hymddygiad yn effeithio ar y ffordd y mae Jehofa yn teimlo, efallai bydd hyn yn eu hysgogi nhw i ymddwyn mewn ffordd sy’n ei blesio ac yn dod â chlod iddo.​—Salm 78:40, 41; Diar. 23:15.

4. Wrth ddysgu pobl yn y weinidogaeth, sut gallwn ni barchu eu hawl i farnu drostyn nhw eu hunain?

4 Nid yw Jehofa yn gorfodi neb i fod yn ufudd i’w orchmynion. Yn hytrach, mae’n apelio at unigolion drwy ddangos iddyn nhw pa mor ddoeth yw dilyn ei gyngor. (Esei. 48:17, 18) Rydyn ni’n efelychu Jehofa drwy ddysgu mewn modd sy’n helpu pobl i farnu drostyn nhw eu hunain. Pan fydd unigolion yn eu perswadio eu hunain bod angen gwneud newidiadau yn eu bywydau, bydd y canlyniadau yn para. (Rhuf. 12:2) Mae’n dod â nhw’n agosach at yr un “sy’n profi calonnau,” sef Jehofa.​—Diar. 17:3.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu