TRYSORAU O AIR DUW | SALMAU 52-59
‘Bwrw Dy Faich ar Jehofa’
Wynebodd Dafydd nifer o dreialon anodd yn ystod ei fywyd. Erbyn iddo gyfansoddi Salm 55, roedd Dafydd wedi dioddef . . .
Cael ei sarhau
Erledigaeth
Euogrwydd Mawr
Profedigaeth
Salwch
Cael ei fradychu
Hyd yn oed pan oedd yn edrych yn amhosibl iddo allu delio â’r pwysau oedd arno, cafodd Dafydd hyd i ffordd i ymdopi. Ei gyngor ysbrydoledig i eraill sy’n teimlo’r un ffordd yw: ‘Bwrw dy faich ar Jehofa.’
Sut gallwn ni rhoi’r adnod ar waith heddiw?
55:22
Tro at Jehofa mewn gweddi o’r galon os wyt ti’n wynebu unrhyw broblem, pryder neu gonsýrn
Ceisia arweiniad a chymorth gan Air Jehofa a’i gyfundrefn
Gwna beth y gelli di i wella’r sefyllfa, yn unol ag egwyddorion y Beibl