TRYSORAU O AIR DUW | SALM 119
“Rhodia yng Nghyfraith Jehofa”
Mae rhodio yng nghyfraith Jehofa yn golygu bod yn barod i ymostwng i arweiniad dwyfol. Mae llawer o esiamplau da yn y Beibl o unigolion, fel y salmydd, a ddilynodd cyfraith Jehofa a dibynnu arno Ef.
Mae gofyn inni rodio yng nghyfraith Duw i gael gwir hapusrwydd
119:1-8
Dangosodd Josua fod ganddo bob hyder yng nghyfarwyddyd Jehofa. Roedd yn gwybod bod angen ymddiried yn Jehofa â’i holl galon er mwyn cael llwyddiant a bod yn hapus
Mae Gair Duw yn rhoi’r dewrder inni ymdopi â threialon bywyd
119:33-40
Dangosodd Jeremeia ddewrder a’i fod yn dibynnu ar Jehofa, er gwaethaf amgylchiadau anodd. Cadwodd ei fywyd yn syml a daliodd ati yn ei aseiniad
Mae gwybodaeth gywir o Air Duw yn rhoi’r hyder inni bregethu
119:41-48
Rhannodd Paul neges Duw â phawb, doedd ganddo ddim ofn. Roedd yn gwbl hyderus y byddai Jehofa yn ei helpu i bregethu wrth y Llywodraethwr Ffelix
Ym mha sefyllfaoedd gallaf ddangos mwy o hyder wrth dystiolaethu i eraill?
Ysgol
Gwaith
Teulu
Arall