TRYSORAU O AIR DUW | ESEIA 11-16
Bydd Gwybodaeth Jehofa yn Llenwi’r Ddaear
11:6-9
Sut roedd y broffwydoliaeth yn berthnasol i’r Israeliaid?
Pan oedd yr Israeliaid ar eu taith adref o’u halltudiaeth ym Mabilon a hyd yn oed ar ôl adfer eu tir, doedd dim rhaid iddyn nhw ofni anifeiliaid gwylltion na dynion bwystfilaidd.—Esr 8:21, 22
Sut mae’r broffwydoliaeth yn berthnasol i’n dyddiau ni?
Mae gwybodaeth Jehofa yn gallu newid cymeriad dyn. Mae pobl dreisgar wedi troi’n heddychol. Mae gwybodaeth Jehofa wedi creu paradwys ysbrydol
Sut caiff y broffwydoliaeth ei chyflawni yn y dyfodol?
Caiff y ddaear gyfan ei thrawsffurfio’n baradwys heddychlon a diogel, yn unol â phwrpas gwreiddiol Duw. Ni fydd unrhyw greadur, boed yn ddyn neu’n anifail, yn peri bygythiad
Cafodd Paul ei newid drwy wybodaeth Duw
Pan oedd yn Pharisead, roedd ganddo bersonoliaeth anifeilaidd.—1Ti 1:13
Drwy wybodaeth gywir trawsffurfiwyd ei bersonoliaeth.—Col 3:8-10