TRYSORAU O AIR DUW | ESEIA 34-37
Cafodd Ffydd Heseceia ei Gwobrwyo
Anfonodd Senacherib, brenin Asyria, ei Rabshace i Jerwsalem iddo fynnu bod y ddinas yn ildio. Defnyddiodd yr Asyriaid amryw ddadleuon mewn ymgais i wneud i’r Iddewon ildio heb frwydr.
Ynysu. Ni fydd yr Aifft o unrhyw help i chi.—Esei 36:6
Bwrw amheuaeth. Ni fydd Jehofa yn brwydro ar eich rhan am ei fod wedi digio wrthych.—Esei 36:7, 10
Codi ofn. Does gennych chi ddim gobaith yn erbyn byddin rymus Asyria.—Esei 36:8, 9
Temtio. Bydd ildio i Asyria yn gwella ansawdd eich bywyd.—Esei 36:16, 17
Dangosodd Heseceia ffydd ddi-sigl yn Jehofa
37:1, 2, 14-20, 36
Fe wnaeth ei orau yn ôl ei allu i baratoi’r ddinas ar gyfer y gwarchae
Gweddïodd ar Jehofa am waredigaeth ac annog ei bobl i wneud yr un fath
Cafodd ei ffydd ei gwobrwyo pan anfonodd Jehofa angel i daro i lawr 185,000 o ryfelwyr Asyria mewn noson