TRYSORAU O AIR DUW | ESEIA 63-66
Nefoedd Newydd a Daear Newydd yn Peri Llawenydd Mawr
Mae addewid Duw o adferiad a gofnodwyd yn Eseia 65 mor bendant, mae Jehofa yn sôn amdano fel petai wedi ei gyflawni yn barod
Mae Jehofa’n creu nefoedd newydd a daear newydd, lle na fydd pethau’r gorffennol yn croesi’r meddwl
65:17
Beth yw’r nefoedd newydd?
Llywodraeth newydd a ddaw â chyfiawnder i’r ddaear
Fe’i sefydlwyd ym 1914 adeg gorseddu Crist yn Frenin Teyrnas Dduw
Beth yw’r ddaear newydd?
Cymdeithas o bobl o bob cenedl, iaith a hil sydd yn ufuddhau i reolaeth y llywodraeth nefol newydd
Sut na fydd pethau’r gorffennol yn croesi’r meddwl?
Bydd y pethau sy’n achosi atgofion poenus—dioddef corfforol, meddyliol, ac emosiynol ddim yn bodoli mwyach
Bob dydd, bydd pobl ffyddlon yn mwynhau bywyd llawn, ac yn trysori atgofion melys y diwrnod