LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb17 Hydref t. 3
  • Sut i Ddod yn Fyfyriwr Dyfal o’r Ysgrythurau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Ddod yn Fyfyriwr Dyfal o’r Ysgrythurau
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Erthyglau Tebyg
  • Cadwa’n Effro Drwy Astudio’n Ddwfn
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Wyt Ti’n Gwasanaethu Jehofa’n Barhaus?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Dysga Gan Esiampl Daniel
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Dysga Gan Broffwydoliaethau’r Beibl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
mwb17 Hydref t. 3

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Sut i Ddod yn Fyfyriwr Dyfal o’r Ysgrythurau

Hoffet ti aros yn ffyddlon o dan dreialon fel roedd Daniel? Roedd Daniel yn frwd yn ei astudiaeth o Air Duw, gan gynnwys proffwydoliaethau dwfn. (Da 9:2) Mae astudio’r Beibl yn ddyfal yn gallu dy helpu i aros yn ffyddlon. Sut felly? Gall adeiladu dy ffydd y daw addewidion Jehofa yn wir. (Jos 23:14) Gall hefyd dy helpu i garu Duw yn fwy, a bydd hynny yn dy gymell i wneud beth sy’n iawn. (Sal 97:10) Ond yn lle dylet ti gychwyn? Ystyria’r awgrymiadau canlynol.

Daniel yn astudio Gair Duw
  • Beth dylwn i ei astudio? Mae arferiad o astudio da yn cynnwys paratoi am y cyfarfodydd. Byddi di’n elwa mwy o ddarlleniad wythnosol o’r Beibl drwy neilltuo amser i ymchwilio pwyntiau nad wyt yn eu deall. Hefyd, mae rhai wedi dewis dysgu mwy am broffwydoliaethau’r Beibl, am rinweddau ffrwythau ysbryd Duw, am deithiau cenhadol Paul, ac am greadigaeth Jehofa. Os daw cwestiwn i dy feddwl yn ystod y dydd, ysgrifenna’r cwestiwn i lawr er mwyn ei astudio y tro nesaf.

  • Ble gallaf gael hyd i’r wybodaeth? I weld yr opsiynau, gwylia’r fideo Research Tools for Discovering Spiritual Treasures. Rho gynnig ar enwi’r grymoedd byd sy’n cael eu portreadu gan fwystfilod Daniel pennod 7.

  • Faint o amser dylwn i dreulio yn astudio? Mae astudio rheolaidd yn allweddol i iechyd ysbrydol. Gelli di gychwyn gyda chyfnodau byrion, os bydd angen, a chynyddu yn raddol. Mae astudio Gair Duw fel cloddio am drysor; mwya’n y byd y byddi di’n darganfod trysor, mwya’n y byd y byddi di eisiau tyllu! (Dia 2:3-6) Bydd dy ddyhead am Air Duw yn cynyddu, a bydd astudio’r Beibl yn parhau i fod yn arferiad rheolaidd iti.—1Pe 2:2.

    Gweler Awake! Chwefror 2012, tt. 18-20 am awgrymiadau sut i wneud astudio yn bleserus.

BETH MAE BWYSTFILOD DANIEL PENNOD 7 YN EI GYNRYCHIOLI?

  • Bwystfil fel llew gydag adenydd eryr

    Da 7:4

  • Bwystfil fel arth gyda thair asen yn ei geg

    Da 7:5

  • Bwystfil fel llewpard gyda phedwar pen a phedair adain ar ei gefn

    Da 7:6

  • Bwystfil dychrynllyd gyda dannedd mawr haearn a deg corn

    Da 7:7

CWESTIWN YCHWANEGOL:

Sut cafodd Daniel 7:8, 24 ei gyflawni?

Corn bach yn codi gyda llygaid a cheg ymhlith y deg corn, a gwneud i dri chorn syrthio

PROSIECT NESAF:

Beth mae bwystfilod Datguddiad pennod 13 yn ei gynrychioli?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu