LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb18 Mawrth t. 7
  • “Gwyliwch Eich Hunain”

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • “Gwyliwch Eich Hunain”
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Erthyglau Tebyg
  • A Wyt Ti’n Gwrando ar y Rhybuddion?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Datguddio’r Un Digyfraith
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
mwb18 Mawrth t. 7
Deg morwyn dameg Iesu

TRYSORAU O AIR DUW | MATHEW 25

“Gwyliwch Eich Hunain”

25:1-12

Er y gwnaeth Iesu gyfeirio dameg y ddeg morwyn briodas at ei ddilynwyr eneiniog, mae ei neges sylfaenol yn berthnasol i bob Cristion. (w15-E 3/15 12-16) “Gwyliwch eich hunain felly! Dych chi ddim yn gwybod y dyddiad na’r amser.” (Mth 25:13) A elli di esbonio dameg Iesu?

  • Y priodfab (adn. 1)—Iesu

  • Morynion call a pharod (adn. 2)—Cristnogion Eneiniog sydd yn barod i gyflawni eu aseiniad yn ffyddlon ac sy’n disgleirio fel sêr hyd at y diwedd (Php 2:15)

  • Y cri: “Mae’r priodfab wedi cyrraedd!” (adn. 6)—Tystiolaeth o bresenoldeb Iesu

  • Y morynion dwl (adn. 8)—Cristnogion Eneiniog sydd yn mynd allan i gyfarfod y Priodfab ond sydd heb ddal ati i fod yn wyliadwrus nac wedi cadw eu huniondeb

  • Y morynion call yn gwrthod rhannu eu holew (adn. 9)—Ar ôl y selio terfynol, mae hi’n rhy hwyr i’r eneiniog ffyddlon helpu rhywun sydd wedi troi’n anffyddlon

  • “Dyma’r priodfab yn cyrraedd” (adn. 10)—Mae Iesu’n dod i farnu yn agos i ddiwedd y gorthrymder mawr

  • Mae’r morynion call yn mynd mewn i’r wledd briodas gyda’r priodfab, a dyma’r drws yn cael ei gau (adn. 10)—Mae Iesu’n casglu ei eneiniog ffyddlon i’r nef, ond mae’r rhai anffyddlon yn colli eu gwobr nefol

Nid yw’r ddameg yn dysgu y byddai nifer fawr o’r eneiniog yn profi’n anffyddlon a bod angen rhai eraill yn eu lle. Yn hytrach, mae’n rhybudd bod gan bob Cristion eneiniog y gallu i ddewis bod yn barod ac yn effro neu’n ffôl ac yn anffyddlon. Erfyniodd Iesu arnyn nhw i “fod yn barod drwy’r adeg.”(Mth 24:44) Beth bynnag fo’n gobaith, mae Iesu’n disgwyl i bob un ohonon ni baratoi ein calonnau ar gyfer gwasanaeth ffyddlon a chyrraedd yr un safon o wyliadwriaeth.

Sut rydw i’n dangos fy mod i’n wyliadwrus?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu