EIN BYWYD CRISTNOGOL
Cariad yw Arwydd y Gwir Gristion—Paid Bod yn Hunanol na Chynhyrfu
PAM MAE’N BWYSIG? Dysgodd Iesu y byddai cariad yn ei gwneud hi’n amlwg pwy yw ei ddisgyblion. (In 13:34, 35) Er mwyn efelychu cariad Iesu, rhaid inni roi eraill yn gyntaf ac osgoi cael ein pryfocio.—1Co 13:5.
SUT I FYND ATI:
Pan fydd rhywun yn gwneud neu’n dweud rhywbeth sy’n dy frifo, cymera eiliad i feddwl beth achosodd y broblem, ac am ganlyniadau yr hyn rwyt yn bwriadu ei wneud.—Dia 19:11
Cofia ein bod ni i gyd yn amherffaith, ac weithiau rydyn ni’n dweud neu’n gwneud pethau y gwnawn ni eu difaru wedyn
Paid ag oedi i ddatrys anghydfod
GWYLIA’R FIDEO “HAVE LOVE AMONG YOURSELVES”—REJECT SELFISHNESS AND PROVOCATION, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Ym mha ffordd gwnaeth Larry orymateb i awgrymiad Tom?
Sut gwnaeth seibio am ychydig i feddwl helpu Tom i osgoi cael ei bryfocio?
Sut gwnaeth ymateb addfwyn Tom helpu i dawelu’r dyfroedd?
Sut mae’r gynulleidfa yn elwa pan nad ydyn ni’n cynhyrfu wrth gael ein pryfocio?