TRYSORAU O AIR DUW | ACTAU 25-26
Paul yn Apelio at Gesar ac yna’n Tystiolaethu i’r Brenin Herod Agripa
Er does dim rhaid inni bryderu am beth i’w ddweud petasen ni’n cael ein “llusgo o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd,” dylen ni fod yn “barod bob amser i roi ateb” i bawb sy’n gofyn inni esbonio ein gobaith. (Mth 10:18-20; 1Pe 3:15) Os bydd gwrthwynebwyr yn ceisio achosi trafferthion inni yn enw’r gyfraith, sut gallwn ni efelychu esiampl Paul?—Sal 94:20.
Manteisiwn ar ein hawliau cyfreithiol er mwyn amddiffyn y newyddion da.—Act 25:11
Dangoswn barch wrth siarad â’r awdurdodau.—Act 26:2, 3
Os yw’n briodol, cawn esbonio sut mae’r newyddion da wedi bod o fudd i ni ac i eraill.—Act 26:11-20