LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb19 Mehefin t. 7
  • Dewisa Dy Adloniant yn Ddoeth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dewisa Dy Adloniant yn Ddoeth
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
  • Erthyglau Tebyg
  • Dewis Adloniant Sy’n Plesio Jehofa
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Dewis Adloniant Iach
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Addola Jehofa yn Unig
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Ydy Dy Adloniant yn Dda iti?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa—2011
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
mwb19 Mehefin t. 7

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Dewisa Dy Adloniant yn Ddoeth

Pam mae’n rhaid inni ddewis ein hadloniant yn ddoeth? Oherwydd wrth ddewis ein hadloniant, boed ar ffurf ffilm, cân, gwefan, llyfr, neu gêm fideo, rydyn ni’n dewis beth sydd am lenwi ein meddyliau. Mae ein dewisiadau yn effeithio ar ein hymddygiad. Yn anffodus, mae’r rhan fwyaf o’r adloniant sydd ar gael heddiw yn cynnwys rhywbeth mae Jehofa yn ei gondemnio. (Sal 11:5; Ga 5:19-21) Felly, mae’r Beibl yn ein hannog i feddwl bob amser am bethau sy’n plesio Jehofa.—Php 4:8.

GWYLIA’R FIDEO WHAT ENTERTAINMENT SHOULD I CHOOSE?, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Un o gemau’r gladiatoriaid Rhufeinig

    Sut mae mwynhau adloniant sy’n cynnwys trais yn debyg i wylio’r gladiatoriaid yn ymladd yn Rhufain gynt?

  • Arloeswr yn pregethu gyda brawd iau o’r un gynulleidfa

    Sut gall aelodau’r gynulleidfa helpu’r rhai ifanc i ddewis adloniant yn ddoeth?

  • Milwr

    Sut dylai Rhufeiniaid 12:9 effeithio ar ein dewis o adloniant?

  • Tystion ifanc yn chwarae pêl-droed

    Pa adloniant iach sydd ar gael yn dy ardal di?

ADLONIANT GWEITHREDOL NEU ODDEFOL?

Mae cryn dipyn o adloniant poblogaidd heddiw, yn hytrach na dysgu pobl i gymryd rhan, yn annog person i wylio neu ddarllen am bobl eraill yn gwneud pethau. Mae ffilmiau, llyfrau, a rhaglenni teledu yn dangos syniadau creadigol pobl eraill, nid dy rai dy hun. Er bod gan adloniant o’r fath ei le, gall adloniant gweithredol fod yn fwy gwerth chweil. Er enghraifft, mae rhai yn mwynhau chwarae offerynnau cerdd neu dynnu lluniau. Mae eraill yn mwynhau gweithgareddau awyr agored fel chwaraeon, cerdded, neu wersyllu. Beth bynnag fydd ein dewis, dylen ni “anrhydeddu Duw.”—1Co 10:31.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu