TRYSORAU O AIR DUW | DATGUDDIAD 10-12
‘Dau Dyst’ yn Cael eu Lladd ac yn Cael eu Hatgyfodi
Y “ddau dyst”: Y grŵp bach o frodyr eneiniog a oedd yn arwain y gwaith pregethu pan gafodd Teyrnas Dduw ei sefydlu ym 1914
Yn cael eu lladd: Ar ôl pregethu am dair blynedd a hanner yn “gwisgo sachliain,” cawson nhw eu “lladd” drwy gael eu carcharu a’u gorfodi i roi taw ar eu gwaith
Yn dod yn ôl yn fyw: Ar ddiwedd y tri diwrnod a hanner, daethon nhw’n ôl yn fyw pan gawson nhw eu rhyddhau o’r carchar ac ail-ddechrau arwain y gwaith pregethu