EIN BYWYD CRISTNOGOL
Efelycha Joseff—Ffo Rhag Anfoesoldeb
Mae hanes Joseff yn gosod esiampl dda os ydy anfoesoldeb rhywiol yn demtasiwn i ni. Bob tro ceisiodd gwraig Potiffar ddenu Joseff, fe wrthododd. (Ge 39:7-10) Ymatebodd Joseff: “Sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?” Mae’n amlwg bod Joseff wedi ystyried safbwynt Jehofa ynglŷn â ffyddlondeb gŵr a gwraig i’w gilydd. Yna, pan drodd y sefyllfa’n ddifrifol, yn lle aros a gadael i’r fenyw wanhau ei benderfyniad, ffodd Joseff.—Ge 39:12; 1Co 6:18.
GWYLIA’R FIDEO FLEE FROM IMMORALITY, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pa sefyllfa wynebodd Jin?
Beth ofynnodd Jin iddo’i hun pan ofynnodd Mee-Kyong iddo ei helpu hi gyda’i gwaith cartref mathemateg?
Sut gwnaeth cwestiwn Mee-Kyong effeithio ar Jin?
Sut gwnaeth Jin dderbyn cymorth?
Pa gamau gymerodd Jin i ffoi rhag anfoesoldeb?
Pa wersi ddysgaist ti o’r fideo?