LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb21 Ionawr t. 5
  • Gwarchoda Dy Briodas

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwarchoda Dy Briodas
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Erthyglau Tebyg
  • Gwneud Priodas Gristnogol yn Llwyddiannus
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • “Bydded Priodas Mewn Parch”
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
mwb21 Ionawr t. 5
Gŵr yn eistedd ar y llawr wrth ymyl ei wraig ac yn ei helpu hi i olchi dillad.

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Gwarchoda Dy Briodas

Mae Jehofa yn cymryd addunedau priodas o ddifri. Dywedodd fod rhaid i ŵr a gwraig lynu wrth ei gilydd. (Mth 19:5, 6) Mae ’na lawer o briodasau hapus ymhlith pobl Dduw. Er hynny, does dim un briodas yn berffaith. Mae problemau yn codi. Dylen ni osgoi meddwl, fel mae llawer, y dylai cwpl wahanu neu ysgaru yn wyneb problemau. Sut gall Cristnogion priod warchod eu priodas?

Ystyria bum cam pwysig.

  1. Gwarchoda dy galon drwy wrthod pethau fel fflyrtio ac adloniant anfoesol, sy’n niweidio priodas.—Mth 5:28; 2Pe 2:14.

  2. Cryfha dy gyfeillgarwch â Duw, a chryfha dy ddymuniad i’w blesio yn dy briodas.—Sal 97:10.

  3. Parha i wisgo’r bersonoliaeth newydd, ac i wneud pethau bach caredig a fydd yn gwneud bywyd dy gymar yn haws.—Col 3:8-10, 12-14.

  4. Dal ati i gyfathrebu mewn ffordd barchus ac ystyrlon.—Col 4:6, BCND.

  5. Dylai gŵr a gwraig ddangos cariad yn eu perthynas rywiol.—1Co 7:3, 4; 10:24.

Pan mae Cristnogion yn anrhydeddu priodas, maen nhw’n parchu dylunydd y briodas, Jehofa.

GWYLIA’R FIDEO WE MUST “RUN WITH ENDURANCE”—OBEY THE RULES OF THE CONTEST, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Golygfa o’r fideo ‘We Must ‘Run With Endurance’—Obey the Rules of the Contest.’ Brawd a Chwaer Calou yn gwenu ar ôl eu hanerchiad priodas yn Neuadd y Deyrnas.

    Er gall priodas gael dechrau da, pa anawsterau a all godi?

  • Golygfa o’r fideo ‘We Must ‘Run With Endurance’—Obey the Rules of the Contest.’ Brawd a Chwaer Calou yn trafod eu heriau yn dawel. Mae’r Beibl ar agor ar y bwrdd.

    Sut gall egwyddorion y Beibl helpu rhai sy’n teimlo eu bod nhw mewn priodas ddigariad?

  • Golygfa o’r fideo ‘We Must ‘Run With Endurance’—Obey the Rules of the Contest.’ Brawd Calou yn darllen o’r llyfr ‘Storïau o’r Beibl’ i’w wraig a’i ddwy ferch.

    Cael priodas hapus drwy roi egwyddorion y Beibl ar waith

    Pa reolau mae Jehofa wedi eu gosod ar gyfer priodasau?

  • Beth mae’n rhaid i ŵr a gwraig ei wneud er mwyn cael priodas lwyddiannus?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu