LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb21 Ionawr t. 7
  • Cynadleddau Blynyddol—Cyfleoedd i Ddangos Cariad

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cynadleddau Blynyddol—Cyfleoedd i Ddangos Cariad
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Erthyglau Tebyg
  • Mae Jehofa’n Gwybod Beth Sydd ei Angen Arnon Ni
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
mwb21 Ionawr t. 7

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cynadleddau Blynyddol—Cyfleoedd i Ddangos Cariad

Cynadleddwyr o wahanol gefndiroedd diwylliannol yn sefyll gyda’i gilydd ar gyfer tynnu llun yng nghynhadledd ryngwladol.

Pam rydyn ni’n mwynhau ein cynadleddau blynyddol gymaint? Fel yn Israel gynt, mae ein cynadleddau heddiw yn aml yn rhoi cyfle inni addoli Jehofa gyda channoedd neu hyd yn oed miloedd o gyd-gredinwyr. Rydyn ni’n mwynhau gwledd o fwyd ysbrydol o safon uchel. Rydyn ni hefyd yn trysori’r amser gwerthfawr y treuliwn gyda’n ffrindiau a’n teulu. Mae ein gwerthfawrogiad dwfn yn ein hysgogi i fynychu bob diwrnod y gynhadledd.

Pan gawn ni’r cyfle i ddod at ein gilydd, dylen ni feddwl, nid yn unig am sut gallwn ni elwa, ond hefyd am sut i ddangos cariad at eraill. (Ga 6:10; Heb 10:24, 25) Drwy ddal drws yn agored i frawd neu chwaer, neu drwy beidio â chadw seddi yn ddiangen, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n meddwl am les pobl eraill. (Php 2:3, 4) Mae cynadleddau yn gyfleoedd bendigedig inni wneud ffrindiau newydd. Gallwn osod nod i ddod i adnabod rhywun newydd cyn ac ar ôl y rhaglen neu yn ystod amser cinio. (2Co 6:13, BCND) Gallwn wneud ffrindiau a fydd yn ffrindiau am byth! Yn bwysicaf oll, pan fydd ymwelwyr yn gweld gwir gariad ar waith, efallai byddan nhw’n dewis gwasanaethu Jehofa gyda ni.—In 13:35.

GWYLIA’R FIDEO “LOVE NEVER FAILS”! INTERNATIONAL CONVENTIONS, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Golygfa o’r fideo ‘‘Love Never Fails’! International Conventions.’ Cynadleddwyr a brodyr a chwiorydd lleol yn rhoi hygs i’w gilydd ac yn croesawu ei gilydd yng nghynhadledd ryngwladol.

    Sut cafodd cariad ei ddangos at gynadleddwyr yng nghynadleddau rhyngwladol 2019?

  • Golygfa o’r fideo ‘‘Love Never Fails’! International Conventions.’ Brodyr a chwiorydd lleol yn dod at ei gilydd gyda chynadleddwyr i dynnu llun ohonon nhw fel grŵp.

    Pam mae undod a chariad pobl Jehofa mor rhyfeddol?

  • Golygfa o’r fideo ‘‘Love Never Fails’! International Conventions.’ Grŵp o frodyr a chwiorydd o Corea yn chwifio dwylo ac yn dal posteri i groesawu y bobl sy’n cyrraedd y gynhadledd.

    Pa agweddau ar gariad Cristnogol cafodd eu hamlygu gan aelodau’r Corff Llywodraethol?

  • Golygfa o’r fideo ‘‘Love Never Fails’! International Conventions.’ Merch yn hapus wrth dal ei chopi o’r ‘New World Translation’ mae hi newydd ei dderbyn.

    Sut gelli di gyfrannu at y cariad yn ein cynadleddau?

    Sut mae cariad Cristnogol wedi uno ein brodyr yn yr Almaen ac yn Ne Corea?

  • Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu