EIN BYWYD CRISTNOGOL
Rhyddhad yn y Dyfodol —Diolch i Dduw a Christ
Pa heriau rwyt ti yn eu hwynebu bob dydd? Wyt ti’n benteulu sy’n ceisio gofalu am lawer o gyfrifoldebau? Wyt ti’n rhiant sengl sy’n gweithio’n galed i gefnogi dy deulu? Wyt ti’n berson ifanc ac yn cael dy fwlio gan gyfoedion yn yr ysgol? Wyt ti’n ymdopi â iechyd gwael neu effeithiau henaint? Mae gan bawb broblemau. Mae llawer o Gristnogion yn delio â nifer o dreialon ar unwaith. Er hynny, rydyn ni’n gwybod bod rhyddhad o’n treialon ar y gorwel.—2Co 4:16-18.
Tan hynny, cawn gysur o wybod bod Jehofa yn deall ein trafferthion, yn gwerthfawrogi ein dyfalbarhad a’n ffydd, ac yn addo ein bendithio ni’n fawr. (Jer 29:11, 12) Mae gan Iesu hefyd ddiddordeb personol ynon ni. Wrth inni gyflawni ein dyletswyddau Cristnogol, mae’n addo inni: “Bydda i gyda chi.” (Mth 28:20) Pan ydyn ni’n seibio i fyfyrio ar ryddhad o dan Deyrnas Dduw yn y dyfodol, byddwn ni’n cryfhau ein gobaith ac yn fwy penderfynol o ddyfalbarhau drwy unrhyw dreialon presennol.—Rhu 8:19-21.
GWYLIA’R FIDEO AS THE STORM APPROACHES, MAINTAIN YOUR FOCUS ON JESUS! —FUTURE KINGDOM BLESSINGS, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Sut mae’r ddynoliaeth wedi ymddieithrio oddi wrth Dduw, a beth yw’r canlyniad?
Pa ddyfodol sydd o flaen y rhai sy’n ffyddlon i Jehofa?
Sut mae’r dyfodol braf hwn yn bosib?
Pa fendithion wyt ti’n edrych ymlaen atyn nhw yn y byd newydd?
Gweld dy hun yn y byd newydd