EIN BYWYD CRISTNOGOL
Tair Ffordd i Ddibynnu ar Jehofa
Gwnaeth Dafydd orchfygu Goliath drwy ddibynnu ar Jehofa. (1Sa 17:45) Mae Jehofa eisiau dangos ei gryfder ar ran ei holl weision. (2Cr 16:9) Sut gallwn ni ddibynnu ar help Jehofa yn hytrach nag ar brofiad a galluoedd ein hunain? Dyma dair ffordd:
Gweddïa’n aml. Paid â gweddïo dim ond am faddeuant ar ôl gwneud camgymeriad, ond hefyd am y nerth i wynebu temtasiwn. (Mth 6:12, 13) Paid â gweddïo dim ond i Jehofa fendithio dy benderfyniadau, ond hefyd am ei arweiniad a’i ddoethineb cyn gwneud penderfyniadau.—Iag 1:5
Cadwa at rwtîn o ddarllen ac astudio’r Beibl. Darllena’r Beibl bob dydd. (Sal 1:2) Meddylia’n ddwfn am esiamplau o’r Beibl, a rho’r gwersi ar waith. (Iag 1:23-25) Paratoa ar gyfer y weinidogaeth yn hytrach na dibynnu ar dy brofiad personol. Paratoa ar gyfer y cyfarfodydd o flaen llaw er mwyn cael y gorau allan ohonyn nhw
Cydweithia â chyfundrefn Jehofa. Bydda’n ymwybodol o’r cyfarwyddyd diweddaraf gan y gyfundrefn, a’i ddilyn heb oedi. (Nu 9:17) Gwranda ar yr henuriaid wrth iddyn nhw roi cyngor a chyfarwyddiadau.—Heb 13:17
GWYLIA’R FIDEO NO REASON TO FEAR PERSECUTION, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
• Pa ofnau oedd y brodyr a’r chwiorydd yn eu hwynebu?
• Beth wnaeth eu helpu nhw i ddelio a’u hofnau?