LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb24 Ionawr tt. 12-13
  • Chwefror 19-25

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Chwefror 19-25
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2024
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2024
mwb24 Ionawr tt. 12-13

CHWEFROR 19-25

SALMAU 8-10

Cân 2 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Bydda i’n Dy Addoli Di, o Jehofa!

(10 mun.)

Mae Jehofa yn eithriadol o dda inni (Sal 8:​3-6; w21.08 3 ¶6)

Rydyn ni’n hapus i foli Jehofa drwy ddweud wrth eraill am yr holl bethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud (Sal 9:1; w20.05 23 ¶10)

Rydyn ni hefyd yn ei foli drwy ganu o waelod ein calonnau iddo (Sal 9:2; w22.04 7 ¶13)

Collage: Ffyrdd gallwn ni foli Jehofa. 1. Chwaer hŷn yn tystiolaethu i ofalydd. 2. Brodyr a chwiorydd yn canu mewn cyfarfod. 3. Bachgen ifanc yn codi ei law i roi ateb yn ystod y cyfarfod. 4. Brawd ifanc yn helpu i lanhau Neuadd y Deyrnas. 5. Chwaer ifanc yn tystiolaethu i gyd-ddisgybl.

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Ym mha ffyrdd eraill galla i foli Jehofa?’

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 8:3—Beth roedd y Salmydd yn ei olygu pan gyfeiriodd at fysedd Duw? (it-1-E 832)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 10:​1-18 (th gwers 11)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) O DŶ I DŶ. Mae’r deiliad yn dweud nad yw ef yn credu mewn Duw. (lmd gwers 5 pwynt 4)

5. Parhau â’r Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dywedodd y person mewn sgwrs cynt nad yw ef yn credu mewn Duw, ond mae’n agored i edrych ar dystiolaeth sy’n awgrymu bod Creawdwr yn bodoli. (th gwers 7)

6. Anerchiad

(5 mun.) w21.06 6-7 ¶15-18—Thema: Helpwch Eich Myfyrwyr y Beibl i Foli Jehofa. (th gwers 10)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 10

7. Sut i Dystiolaethu’n Anffurfiol Mewn Ffordd Naturiol

(10 mun.) Trafodaeth.

Gallwn foli Jehofa yn fwy drwy dystiolaethu i’r rhai rydyn ni’n cyfarfod yn ein bywydau bob dydd. (Sal 35:28) Ar y cychwyn, efallai rydyn ni’n teimlo’n nerfus am dystiolaethu’n anffurfiol. Ond wrth inni ddysgu sut i ddechrau a pharhau sgyrsiau mewn ffordd naturiol, gallwn ni ddod yn fwy effeithiol a hyd yn oed ei fwynhau!

Golygfa o’r fideo “Byddwch yn Barod “i Rannu’r Newyddion Da am Heddwch”​—⁠Cymryd y Cam Cyntaf.” Mae chwaer yn dechrau sgwrs gyda dynes ar y bwrdd nesaf mewn bwyty

Dangosa’r FIDEO Byddwch yn Barod “i Rannu’r Newyddion Da am Heddwch”—Cymryd y Cam Cyntaf. Yna, gofynna i’r gynulleidfa:

Beth wnest ti ei ddysgu o’r dramateiddiad hwn a all dy helpu i ddod yn fwy effeithiol wrth dystiolaethu’n anffurfiol?

Gall yr awgrymiadau canlynol dy helpu di i ddechrau sgwrs:

  • Edrycha am gyfleoedd i ddechrau sgyrsiau pob tro rwyt ti’n gadael dy gartref. Gweddïa amdani, a gofyn i Jehofa dy arwain di at bobl sydd eisiau gwrando

  • Bydda’n gyfeillgar a dangos diddordeb yn y bobl rwyt ti’n cyfarfod. Ceisia ddysgu rhywbeth am y person fel dy fod ti’n gwybod pa wirioneddau o’r Beibl efallai byddai’n apelio ato

  • Os mae’n addas, chwilia am gyfleoedd i gyfnewid manylion cyswllt

  • Paid â bod yn siomedig os ydy’r sgwrs yn dod i ben cyn rwyt ti’n cael y cyfle i dystiolaethu

  • Meddylia am y person ar ôl y sgwrs. Dalia ati i ddangos diddordeb personol drwy anfon linc i adnod o’r Beibl neu erthygl ar jw.org

Tria hyn: Os mae rhywun yn gofyn, ‘Sut roedd dy benwythnos?,’ sonia am rywbeth wnest ti ei ddysgu yn y cyfarfod neu’r gwaith pregethu rwyt ti’n ei wneud.

8. Anghenion Lleol

(5 mun.)

9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) lff gwers 48 pwyntiau 1-4

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 90 a Gweddi

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu