EBRILL 8-14
SALMAU 26-28
Cân 34 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Roedd Dafydd yn Benderfynol o Aros yn Ffyddlon
(10 mun.)
Gofynnodd Dafydd am help Jehofa i fod yn berson gwell (Sal 26:1, 2; w04-E 12/1 14 ¶8-9)
Roedd Dafydd yn osgoi cwmni pobl ddrwg (Sal 26:4, 5; w04-E 12/1 15 ¶12-13)
Roedd Dafydd wrth ei fodd gydag addoli Jehofa (Sal 26:8; w04-E 12/1 16 ¶17-18)
Er bod Dafydd wedi gwneud camgymeriadau, roedd yn gwneud ei orau glas i fod yn ufudd. (1Br 9:4) Gan fod Dafydd yn caru Jehofa ac yn ei wasanaethu gyda chalon gyflawn, roedd pawb yn gallu gweld ei fod yn ffyddlon i Dduw.
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Sal 27:10—Sut gall yr adnod hon ein cysuro ni os rydyn ni’n teimlo bod ein ffrindiau agos wedi cefnu arnon ni? (w06-E 7/15 28 ¶15)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Sal 27:1-14 (th gwers 2)
4. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) O DŶ I DŶ. Defnyddia daflen o’n Bocs Tŵls Dysgu. (th gwers 3)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) O DŶ I DŶ. Trafoda’r cwestiwn ar gefn y daflen gwnest ti ei gadael y tro diwethaf. Tynna sylw at jw.org, a dangos enghraifft o beth sydd ar gael yno. (lmd gwers 9 pwynt 3)
6. Anerchiad
(5 mun.) lmd atodiad A pwynt 3—Thema: Bydd Problemau’r Amgylchedd yn Cael eu Datrys. (th gwers 13)
Cân 128
7. Pobl Ifanc Sy’n Aros yn Foesol Lân
(15 mun.) Trafodaeth.
Mae rhaid i Gristnogion frwydro i aros yn foesol lân, yn enwedig pan maen nhw’n ifanc. Maen nhw’n cwffio yn erbyn eu hamherffeithrwydd eu hunain ac yn erbyn teimladau cryf rhywiol oherwydd eu bod nhw dal yn ifanc, a gall y ffactorau hyn ei gwneud hi’n anodd gwneud beth sy’n iawn. (Rhu 7:21; 1Co 7:36) Ar ben hynny, maen nhw’n gorfod gwrthsefyll pwysau i gael rhyw heterorywiol a rhyw gyfunrhywiol. (Eff 2:2) Rydyn ni’n prowd iawn o’r rhai sy’n parhau i aros yn ffyddlon i Jehofa.
Dangosa’r FIDEO Fy Mywyd Fel Person Ifanc—Sut Galla i Wrthsefyll Pwysau i Gael Rhyw Cyn Priodi? Yna, gofynna i’r gynulleidfa:
Pa bwysau wynebodd Cory a Kamryn?
Beth helpon nhw i aros yn ffyddlon?
Pa egwyddorion o’r Beibl a all dy helpu di mewn sefyllfaoedd tebyg?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) lff gwers 52