LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb24 Medi tt. 2-3
  • Medi 2-8

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Medi 2-8
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2024
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2024
mwb24 Medi tt. 2-3

MEDI 2-8

SALM 79-81

Cân 29 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Dangosa Gariad at Enw Anrhydeddus Jehofa

(10 mun.)

Cefna ar weithredoedd sy’n amharchu Jehofa (Sal 79:9; w17.02 9 ¶5)

Galwa ar enw Jehofa (Sal 80:18; ijwbv-E 3 ¶4-5)

Mae Jehofa’n gwobrwyo’r rhai sy’n ufudd iddo ac sy’n caru ei enw (Sal 81:​13, 16)

Brawd yn rhoi cerdyn cyswllt jw.org i gyd-weithiwr yn ystod eu hegwyl.

Er mwyn i’n hymddygiad adlewyrchu’n dda ar enw Jehofa, mae’n rhaid inni ddweud wrth eraill ein bod ni’n dystion iddo

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 80:1—Pam cafodd enw Joseff ei ddefnyddio i gyfeirio at holl lwythau Israel? (it-2-E 111)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 79:1–80:7 (th gwers 10)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(1 mun.) O DŶ I DŶ. Cynigia astudiaeth Feiblaidd. (lmd gwers 4 pwynt 4)

5. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cynigia astudiaeth Feiblaidd. (lmd gwers 4 pwynt 3)

6. Dechrau Sgwrs

(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Cynigia astudiaeth Feiblaidd. (lmd gwers 3 pwynt 3)

7. Parhau â’r Sgwrs

(5 mun.) O DŶ I DŶ. Cynigia astudiaeth Feiblaidd i rywun sydd â diddordeb a wnaeth wrthod astudio yn y gorffennol. (lmd gwers 8 pwynt 3)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 10

8. “Byddan Nhw’n Anrhydeddu Fy Enw”

(15 mun.) Trafodaeth.

Dechreuodd Satan bardduo enw Jehofa yng ngardd Eden. Ers hynny, mae pob person ac angel wedi wynebu penderfyniad pwysig: I sancteiddio enw Jehofa neu beidio.

Ystyria rai o’r celwyddau ofnadwy mae Satan wedi eu lledaenu am Jehofa. Mae’n cyhuddo Jehofa o fod yn frenin cas ac anghariadus. (Ge 3:​1-6; Job 4:​18, 19) Mae’n honni dydy gweision Jehofa ddim yn wir yn caru Duw. (Job 2:​4, 5) Mae hyd yn oed wedi perswadio miliynau o bobl i gredu na chafodd y ddaear brydferth o’n cwmpas ni ei chreu gan Jehofa.—Rhu 1:​20, 21.

Sut mae’r celwyddau hynny yn gwneud iti deimlo? Yn ôl pob tebyg, rwyt ti eisiau sefyll i fyny dros enw Jehofa! Roedd Jehofa’n gwybod y byddai ei bobl eisiau sancteiddio ei enw. (Cymhara Eseia 29:23.) Sut gelli di helpu?

  • Helpa eraill i ddod i adnabod Jehofa a’i garu. (In 17:​25, 26) Bydda’n barod i brofi i eraill Ei fod yn bodoli, ac i’w dysgu nhw am ei rinweddau hyfryd.—Esei 63:7

  • Cara Jehofa â dy holl galon. (Mth 22:​37, 38) Ufuddha i orchmynion Jehofa, nid yn unig am eu bod nhw’n dda iti, ond hefyd am dy fod ti eisiau plesio Jehofa.—Dia 27:11

Collage: Golygfeydd o’r fideo “Dydy Cariad Byth yn Darfod er Gwaethaf . . . Dylanwadau Drwg yn yr Ysgol.” 1. Ariel yn eistedd wrth ei desg tra bod bachgen yn ei dosbarth yn pwyntio ati a gofyn pam dydy hi ddim yn saliwtio’r faner. 2. Mae hi’n defnyddio’r Beibl a gwers 61 o’r llyfr “Lessons You Can Learn From the Bible” wrth astudio. 3. Mae hi’n sefyll o flaen ei dosbarth ac yn rhoi tystiolaeth. 4. Un o gyd-ddisgyblion Diego yn cynnig e-sigarét iddo. 5. Mae Diego yn defnyddio tabled i wneud ymchwil. 6. Mae’n cerdded i ffwrdd o’i ysgol gyda gwên ar ei wyneb.

Dangosa’r FIDEO Dydy Cariad Byth yn Darfod er Gwaethaf . . . Dylanwadau Drwg yn yr Ysgol. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Sut gwnaeth Ariel a Diego amddiffyn enw Jehofa?

  • Beth wnaeth eu cymell nhw i sefyll o blaid Jehofa?

  • Sut gelli di efelychu eu hesiampl?

9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) bt pen. 4 ¶1-8

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 74 a Gweddi

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu