LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb24 Medi tt. 14-15
  • Hydref 28–Tachwedd 3

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Hydref 28–Tachwedd 3
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2024
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2024
mwb24 Medi tt. 14-15

HYDREF 28–TACHWEDD 3

SALM 103-104

Cân 30 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Mae’n Cofio Mai Llwch Ydyn Ni

(10 mun.)

Mae caredigrwydd Jehofa yn ei gymell i fod yn rhesymol (Sal 103:8; w23.07 21 ¶5)

Dydy Jehofa ddim yn cefnu arnon ni pan ydyn ni’n gwneud camgymeriadau (Sal 103:​9, 10; w23.09 6-7 ¶16-18)

Dydy Jehofa ddim yn disgwyl mwy gynnon ni nag y gallwn ni ei roi (Sal 103:14; w23.05 26 ¶2)

Gŵr yn gwrando’n ofalus ar ei wraig wrth iddi rannu ei theimladau ag ef.

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Ydw i’n trin fy nghymar mewn ffordd sy’n adlewyrchu rhesymoldeb Jehofa?’

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 104:24—Beth rydyn ni’n ei ddysgu am allu creadigol Jehofa o’r adnod hon? (cl-E 55 ¶18)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 104:​1-24 (th gwers 11)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. (lmd gwers 3 pwynt 4)

5. Parhau â’r Sgwrs

(4 mun.) O DŶ I DŶ. Trafoda’r fideo Croeso i’ch Astudiaeth Feiblaidd gyda rhywun sydd wedi derbyn astudiaeth Feiblaidd. (th gwers 9)

6. Anerchiad

(5 mun.) lmd atodiad A pwynt 6—Thema: Dylai’r Gŵr “Garu Ei Wraig Fel y Mae’n Ei Garu Ei Hun.” (th gwers 1)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 44

7. A Wyt Ti’n Gwybod Lle Mae Terfyn Dy Alluoedd?

(15 mun.) Trafodaeth.

Mae gwneud ein gorau glas i Jehofa yn ei wneud ef a ninnau’n hapus. (Sal 73:28) Ond, gall ceisio gwneud ein gorau heb ystyried terfynau ein galluoedd neu ein cyfyngiadau achosi pryder a siom.

Y chwaer ifanc o’r fideo “Gallwn Wneud Mwy Drwy Gael Disgwyliadau Rhesymol.”

Dangosa’r FIDEO Gallwn Wneud Mwy Drwy Gael Disgwyliadau Rhesymol. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Beth mae Jehofa’n ei ddisgwyl gynnon ni? (Mich 6:8)

  • Golygfa o’r fideo “Gallwn Wneud Mwy Drwy Gael Disgwyliadau Rhesymol.” Mae’r chwaer a’i ffrind yn calonogi myfyrwraig mewn caffi.
  • Beth helpodd y chwaer ifanc i boeni llai am gyrraedd ei nod?

SUT I WEITHIO ALLAN FAINT RYDYN NI’N GALLU EI WNEUD

  • Paid â chymharu. (Ga 6:4) Paid â phenderfynu beth gelli di ei wneud ar sail beth mae eraill yn ei wneud. Efallai byddi di’n gallu gwneud mwy, neu lai, na rywun arall o’r un oed neu sydd mewn sefyllfa debyg iti

  • Paid â gwneud beth sy’n gyfforddus iti yn unig. (Rhu 12:1; 1Co 7:31) Paid â gadael i ofn dy stopio di rhag trio mathau newydd o wasanaeth, hyd yn oed os wyt ti’n meddwl byddan nhw’n ddiflas neu y tu hwnt i dy gyrraedd.—Mal 3:10

  • Profi’r dŵr trwy osod amcanion bach. Er enghraifft, a ydy arloesi’n llawn amser o fewn dy allu? Am rai misoedd, beth am drio gwneud mwy yn y weinidogaeth neu arloesi’n gynorthwyol? A elli di arloesi’n llawn amser am un flwyddyn? Hyd yn oed os nad wyt ti’n gallu arloesi’n llawn amser neu ei wneud am fwy na blwyddyn, fyddi di byth yn difaru beth byddi di wedi llwyddo i’w wneud.—Pre 6:9

  • Bydda’n hyblyg. Gall ein hamgylchiadau a’r hyn rydyn ni’n gallu ei wneud newid. Felly, ailystyria dy amcanion yn rheolaidd

8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) bt pen. 6 ¶1-8 a’r cyflwyniad i ran 2

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 65 a Gweddi

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu