LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb25 Ionawr tt. 14-15
  • Chwefror 24–Mawrth 2

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Chwefror 24–Mawrth 2
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2025
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2025
mwb25 Ionawr tt. 14-15

CHWEFROR 24–MAWRTH 2

DIARHEBION 2

Cân 35 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Pam Astudio’r Beibl â Dy Holl Galon?

(10 mun.)

Er mwyn dangos dy fod ti’n gwerthfawrogi’r gwir (Dia 2:​3, 4; w22.08 18 ¶16)

Er mwyn gwneud penderfyniadau da (Dia 2:​5-7; w22.10 19 ¶3-4)

Er mwyn cryfhau dy ffydd (Dia 2:​11, 12; w16.09 23 ¶2-3)

Dyn o Israel tu mewn ogof yn defnyddio caib.

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Sut galla i wella ansawdd fy astudiaeth bersonol a’i gwneud yn fwy rheolaidd?’

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Dia 2:7—Sut mae Jehofa “fel tarian i amddiffyn y sawl sy’n byw yn onest”? (it-1-E 1211 ¶4)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Dia 2:​1-22 (th gwers 12)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(4 mun.) O DŶ I DŶ. Dangosa i’r person sut i ddod o hyd i wybodaeth ar jw.org ar gyfer cyplau priod. (lmd gwers 1 pwynt 3)

5. Parhau â’r Sgwrs

(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cynigia gylchgrawn ar bwnc y gwnaeth y person ei godi yn eich sgwrs ddiwethaf. (lmd gwers 9 pwynt 3)

6. Anerchiad

(5 mun.) lmd atodiad A pwynt 8—Thema: Dylai Gŵr a Gwraig Fod yn Ffyddlon i’w Gilydd. (th gwers 13)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 96

7. A Wyt Ti’n Chwilio am Drysor Cudd?

(15 mun.) Trafodaeth.

A wyt ti’n berson ifanc sy’n hoffi’r syniad o edrych am drysor cudd? Os felly, mae’r Beibl yn dy wahodd di i chwilio am y trysor mwyaf gwerthfawr yn y bydysawd—gwybodaeth am Dduw! (Dia 2:​4, 5) Gelli di ddod o hyd i’r trysor hwn drwy ddarllen y Beibl yn rheolaidd a thrwy gloddio i mewn i’r hanesion. Bydd hynny’n gwneud iti deimlo’n hapus ac yn fodlon!

  • Pa gwestiynau gelli di eu gofyn wrth ddarllen y Beibl? (w24.02 32 ¶2-3)

  • Pa adnoddau gelli di eu defnyddio i ffeindio’r atebion?

Bachgen ifanc, wedi gwisgo lan fel anturiaethwr, yn agor cist drysor yn gyffrous.

Gall y gyfres fideo Dysgu Oddi Wrth Ffrindiau Jehofa dy helpu di i feddwl yn ddwfn am beth rwyt ti’n ei ddarllen yn y Beibl.

Brawd ifanc yn astudio’r Beibl ar ei ben ei hun. Mae’r llyfryn “A Gafodd Bywyd ei Greu?” ar ei ddesg.

Dangosa’r FIDEO Dysgu Oddi Wrth Ffrindiau Jehofa—Abel.

Darllen Genesis 4:​2-4 a Hebreaid 11:4. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Sut dangosodd Abel ei fod yn ffrind i Jehofa?

  • Sut gwnaeth Abel gryfhau ei ffydd yn Nuw?

  • Sut gelli di gryfhau dy ffydd?

AWGRYM

Wrth iti ddarllen y Beibl, gwna ymchwil ar y bobl, y llefydd, a’r pethau rwyt ti’n darllen amdanyn nhw, hyd yn oed y rhai sy’n gyfarwydd iawn iti. Wrth iti astudio fel hyn, bydd y Beibl yn dod yn fyw!

8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) bt pen. 11 ¶5-10, blwch ar t. 89

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 129 a Gweddi

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu