MAWRTH 17-23
DIARHEBION 5
Cân 122 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Cadw Draw Oddi Wrth Anfoesoldeb Rhywiol
(10 mun.)
Gall anfoesoldeb rhywiol ymddangos yn apelgar (Dia 5:3; w00-E 7/15 29 ¶1)
Mae canlyniadau anfoesoldeb rhywiol yn chwerw (Dia 5:4, 5; w00-E 7/15 29 ¶2)
Cadwa draw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol (Dia 5:8; w00-E 7/15 29 ¶5)
Chwaer sy’n Gristion yn gwrthod rhoi ei rhif i fachgen
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Dia 5:9—Sut mae anfoesoldeb rhywiol yn achosi i berson ‘golli hunan-barch’? (w00-E 7/15 29 ¶7)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Dia 5:1-23 (th gwers 5)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Gwahodda rywun sydd heb gefndir Cristnogol i’r Goffadwriaeth, a defnyddia jw.org i ddod o hyd i’r Goffadwriaeth agosaf ato. (lmd gwers 6 pwynt 4)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) O DŶ I DŶ. Ar yr alwad flaenorol, derbyniodd y person wahoddiad i’r Goffadwriaeth a dangos diddordeb. (lmd gwers 9 pwynt 5)
6. Gwneud Disgyblion
(5 mun.) lff gwers 16 crynodeb, adolygu, a nod. Pan mae’r myfyriwr yn gofyn a oedd Iesu’n briod, dangosa iddo sut i ymchwilio’r ateb. (lmd gwers 11 pwynt 4)
Cân 121
7. Cymera Gamau i Aros yn Foesol Lân Wrth Ganlyn
(15 mun.) Trafodaeth.
Gall unrhyw adeg lle mae dau berson yn dangos diddordeb rhamantus yn ei gilydd gael ei hystyried fel dêt. Gall hyn ddigwydd mewn grŵp neu mewn preifat, yn agored neu’n gyfrinachol, mewn person, dros y ffôn, neu wrth decstio. Rydyn ni’n ystyried mynd ar ddêt, nid fel adloniant, ond yr un fath â chanlyn, sef cam pwysig tuag at briodas. Pa gamau gall unigolion eu cymryd, ni waeth eu hoedran, er mwyn osgoi anfoesoldeb rhywiol wrth ganlyn?—Dia 22:3.
Dangosa’r FIDEO Preparing for Marriage—Part 1: Am I Ready to Date?—Excerpt. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pam na ddylai unigolyn fynd ar ddêt oni bai ei fod yn meddwl o ddifri am briodi? (Dia 13:12; Lc 14:28-30)
Beth roeddet ti’n ei hoffi am y ffordd gwnaeth y rhieni helpu eu merch?
Darllen Diarhebion 28:26. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Sut gall meddwl o flaen llaw helpu cwpl i osgoi sefyllfaoedd a all eu temtio nhw i wneud rhywbeth drwg?
Pam byddai’n ddoeth i gwpl osod rheolau clir o flaen llaw ar sut i ddangos eu cariad, gan gynnwys pethau fel dal dwylo a chusanu?
Darllen Effesiaid 5:3, 4. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Beth dylai cwpl ei gadw mewn cof wrth iddyn nhw sgwrsio dros y ffôn neu ar-lein?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 12 ¶7-13, blwch ar t. 97