LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb25 Mawrth tt. 14-15
  • Ebrill 28–Mai 4

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ebrill 28–Mai 4
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2025
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2025
mwb25 Mawrth tt. 14-15

EBRILL 28–MAI 4

DIARHEBION 11

Cân 90 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Dal Dy Dafod!

(10 mun.)

Paid â dweud rhywbeth a all niweidio pobl eraill (Dia 11:9; w02-E 5/15 26 ¶4)

Wrth siarad, paid â chreu rhaniadau (Dia 11:11; w02-E 5/15 27 ¶2-3)

Paid â thorri cyfrinachedd (Dia 11:​12, 13; w02-E 5/15 27 ¶5)

Dau frawd yn sgwrsio mewn Neuadd y Deyrnas. Mae un ohonyn nhw’n siarad yn negyddol am frawd arall sy’n cerdded tuag atyn nhw.

MYFYRIA AR HYN: Sut mae geiriau Iesu yn Luc 6:45 yn ein helpu ni i beidio â dweud pethau a fyddai’n brifo eraill?

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Dia 11:17—Sut mae bod yn garedig o les inni? (g20.1 11, blwch)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Dia 11:​1-20 (th gwers 5)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Edrycha am gyfle i rannu rhywbeth rwyt ti wedi ei ddysgu mewn cyfarfod diweddar. (lmd gwers 2 pwynt 4)

5. Parhau â’r Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cyflwyna a thrafoda fideo o’r Bocs Tŵls Dysgu, ond paid â’i chwarae. (lmd gwers 8 pwynt 3)

6. Gwneud Disgyblion

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Cynigia astudiaeth Feiblaidd a dangosa sut mae’n cael ei chynnal. (lmd gwers 10 pwynt 3)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 157

7. Paid â Dweud Pethau a Fydd yn Torri Heddwch

(15 mun.) Trafodaeth.

Gan ein bod ni’n amherffaith, rydyn ni’n dweud pethau anghywir. (Iag 3:8) Ond, os ydyn ni’n ymwybodol o’r maglau cyffredin, gallwn ni osgoi dweud pethau fyddwn ni’n difaru wedyn. Dyma rai ffyrdd o siarad a all ddifetha heddwch y gynulleidfa:

  • Brolio anaddas. Gall hunan-ganmoliaeth ennyn ysbryd cystadleuol neu eiddigedd.—Dia 27:2

  • Geiriau anonest. Nid celwyddau pur yn unig sy’n gallu camarwain pobl. Mae hyd yn oed fymryn bach o anonestrwydd yn gallu difetha tryst a niweidio ein henw da.—Pre 10:1

  • Hel clecs. Mae hyn yn cynnwys siarad gwag am fywydau pobl eraill mewn ffordd sy’n camliwio’r ffeithiau neu sy’n datgelu pethau preifat. (1Ti 5:13) Mae’n gallu arwain at ddadleuon a rhaniadau

  • Siarad yn ddig. Gall hyn gynnwys mynegi ein teimladau heb reolaeth pan ydyn ni’n ddig wrth rywun sydd wedi ein hypsetio ni. (Eff 4:26) Mae’n gallu brifo person.—Dia 29:22

Golygfeydd o’r fideo “‘Cael Gwared’ ar Bethau Sy’n Torri Heddwch—Clip fideo.” 1. Emily a Celia yn eistedd mewn caffi yn wynebu ei gilydd. Mae Celia yn edrych ar rywbeth mae Haley wedi ei gyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol. 2. Mae Haley yn siarad yn gas â Celia ym maes parcio Neuadd y Deyrnas.

Dangosa’r FIDEO “Cael Gwared” ar Bethau Sy’n Torri Heddwch—Clip fideo. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Beth ddysgaist ti am beidio â chwalu heddwch y gynulleidfa gyda’n geiriau?

I weld sut cafodd heddwch ei adfer, gwylia’r fideo ‘Ceisiwch Heddwch a’i Ddilyn.’

8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) bt pen. 14 ¶7-10, blwch ar t. 110

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân Newydd ar Gyfer Cynhadledd 2025 a Gweddi

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu