RHAGFYR 8-14
ESEIA 6-8
Cân 75 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Dyma Fi! Anfon Fi!
(10 mun.)
Gwirfoddolodd Eseia i fod yn negesydd i Jehofa heb oedi (Esei 6:8; ip-1-E 93-94 ¶13-14)
Byddai aseiniad Eseia yn heriol (Esei 6:9, 10; ip-1-E 95 ¶15-16)
Fel yn achos Eseia, ni wnaeth llawer wrando ar Iesu chwaith (Mth 13:13-15; ip-1-E 99 ¶23)
MYFYRIA AR HYN: Sut galla i wneud mwy i wasanaethu Jehofa ac eraill?
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Esei 7:3, 4—Pam roedd Jehofa’n fodlon achub y brenin drwg Ahas? (w06-E 12/1 9 ¶4)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Esei 8:1-13 (th gwers 5)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. Rhanna wirionedd o atodiad A y llyfryn Caru Pobl. (lmd gwers 4 pwynt 5)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) O DŶ I DŶ. Cynigia astudiaeth Feiblaidd. (lmd gwers 9 pwynt 3)
6. Parhau â’r Sgwrs
(5 mun.) O DŶ I DŶ. Dangosa i rywun sut mae astudiaeth Feiblaidd yn cael ei chynnal. (lmd gwers 9 pwynt 5)
Cân 83
7. Cael Ein Hadnabod fel y Bobl Sy’n Pregethu o Dŷ i Dŷ
(15 mun.) Trafodaeth.
Mae Tystion Jehofa yn adnabyddus am bregethu o dŷ i dŷ fel gwnaeth Iesu a Christnogion y ganrif gyntaf.—Lc 10:5; Act 5:42.
Wrth gwrs, roedd rhaid gohirio’r gwaith pregethu o dŷ i dŷ yn ystod y pandemig COVID-19. Felly, gwnaethon ni ganolbwyntio ar bregethu’r newyddion da drwy ddechrau sgyrsiau anffurfiol, ysgrifennu llythyrau, a thystiolaethu dros y ffôn. Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi cael y cyfle i wella ein sgiliau pregethu yn y ffyrdd hyn! Er hynny, pregethu o dŷ i dŷ yw ein prif ffordd o rannu’r newyddion da o hyd. A elli di gymryd rhan yn y gwaith pregethu o dŷ i dŷ yn rheolaidd?
Sut mae pregethu o dŷ i dŷ yn ein helpu ni i wneud y canlynol?
Cyrraedd pawb yn ein tiriogaeth
Gwella ein sgiliau dysgu a meithrin rhinweddau fel bod yn ddewr, trin eraill heb ffafriaeth, a bod yn hunanaberthol
Cychwyn astudiaethau Beiblaidd
Dangosa’r FIDEO Pregethu ym Mhob Tywydd. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Beth gwnest ti ei ddysgu o agwedd hunanaberthol y pregethwyr ar Ynysoedd Ffaro?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 24 ¶13-21