RHAGFYR 22-28
ESEIA 11-13
Cân 14 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Beth Mae’r Beibl yn Ei Ddweud am y Meseia?
(10 mun.)
Fe fyddai’n un o ddisgynyddion Jesse drwy ei fab Dafydd (Esei 11:1; ip-1-E 159 ¶4-5)
Fe fyddai ysbryd Duw arno a byddai’n llawn ofn Jehofa (Esei 11:2, 3a; ip-1-E 159 ¶6; 160 ¶8)
Fe fyddai’n farnwr cyfiawn a thrugarog (Esei 11:3b-5; ip-1-E 160 ¶9; 161 ¶11)
MYFYRIA AR HYN: Beth sy’n gwneud Iesu’n well nag unrhyw reolwr dynol?
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Esei 11:10—Sut mae’r broffwydoliaeth hon wedi cael ei chyflawni? (ip-1-E 165-166 ¶16-18)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Esei 11:1-12 (th gwers 11)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. (lmd gwers 2 pwynt 5)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Defnyddia jw.org i ateb cwestiwn mae’r person yn ei godi. (lmd gwers 8 pwynt 3)
6. Gwneud Disgyblion
(5 mun.) Helpa dy fyfyriwr i baratoi i bregethu gyda ti o dŷ i dŷ. (lmd gwers 11 pwynt 4)
Cân 57
7. A Wyt Ti’n ‘Barnu’n Gyfiawn’?
(15 mun.) Trafodaeth.
Bob dydd rydyn ni’n ffurfio barn am bobl, weithiau heb feddwl. Rydyn ni’n dueddol o wneud hynny ar sail beth rydyn ni’n ei weld. Ond eto, mae Iesu, yr un rydyn ni eisiau ei efelychu, yn barnu’n wahanol. (Esei 11:3, 4) Mae Iesu’n gallu gweld beth sydd yn y galon ac yn deall meddyliau, rhesymeg, a chymhellion pobl. Er nad ydyn ni’n gallu gwneud hynny, gallwn ni drio ein gorau i efelychu Iesu. Fe ddywedodd: “Stopiwch farnu yn ôl yr hyn sydd ar y tu allan, ond barnwch yn gyfiawn.”—In 7:24.
Gall barnu eraill ar sail beth rydyn ni’n ei weld effeithio ar ein sêl a gwneud ein gweinidogaeth yn llai effeithiol. Er enghraifft, a ydyn ni’n dal yn ôl rhag pregethu mewn llefydd lle mae ’na bobl o gefndir neu grefydd wahanol? Beth am ardaloedd tlawd neu gyfoethog? A ydyn ni’n cymryd na fydd gan rywun ddiddordeb ar sail ei olwg? Mae Duw yn “dymuno gweld pobl o bob math yn cael eu hachub ac yn cael gwybodaeth gywir am y gwir.”—1Ti 2:4.
Dangosa’r FIDEO Gwersi o’r Tŵr Gwylio—Peidiwch â Barnu yn ôl yr Hyn Sydd ar y Tu Allan. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pa ragfarnau a gafodd eu sôn amdanyn nhw yn y fideo?
Pa effaith gallai rhagfarnau ei chael petasen nhw’n sleifio i mewn i’r gynulleidfa?
Beth wnaeth helpu’r brodyr a’r chwiorydd yn y cyfweliadau i osgoi barnu eraill ar sail eu golwg?
Pa wersi gwnest ti eu dysgu o’r erthygl yn y Tŵr Gwylio?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 25 ¶5-7, blwch ar t. 200