LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp21 Rhif 1 tt. 3-4
  • Beth Mae Pobl yn ei Ddweud am Weddïo?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Mae Pobl yn ei Ddweud am Weddïo?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
  • Erthyglau Tebyg
  • Nesáu at Dduw Drwy Weddïo
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Y Fraint o Weddïo
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Closio at Dduw Drwy Weddi
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Dod yn Nes at Dduw
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
wp21 Rhif 1 tt. 3-4
Pobl mewn gwahanol wledydd yn gweddïo a gofyn i Dduw am ei help.

Beth Mae Pobl yn ei Ddweud am Weddïo?

“Pan fydda i’n gweddïo, dw i’n teimlo bod Duw wrth f’ochr, yn dal fy llaw ac yn fy arwain pan fydda i ar goll.”—MARÍA.

“Bu farw fy ngwraig ar ôl brwydro yn erbyn canser am 13 o flynyddoedd. Dw i’n cofio gweddïo ar Dduw bob dydd a theimlo ei fod yn gwrando o ddifri arna i yn fy holl boen. Roeddwn i’n dawel fy meddwl wedyn.”—RAÚL.

“Mae gweddi yn rhodd arbennig oddi wrth Dduw.”—ARNE.

I María, Raúl, Arne a llawer o bobl eraill, mae gweddi yn rhodd unigryw. Trwy weddi, maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu siarad â Duw, diolch iddo, a gofyn am ei help. Maen nhw’n credu â’u holl galonnau bod y Beibl yn iawn pan ddywed: “Dyma’r hyder sydd gynnon ni tuag ato: beth bynnag rydyn ni’n gofyn amdano yn ôl ei ewyllys, mae’n ein clywed ni.”—1 Ioan 5:14.

Ar y llaw arall, mae rhai yn ei chael hi’n anodd derbyn beth mae’r Beibl yn ei ddweud am weddi. Mae Steve yn esbonio sut roedd ef yn teimlo: “Pan o’n i’n 17 oed cafodd tri o’m ffrindiau eu lladd mewn dwy ddamwain wahanol. Bu farw un mewn damwain car, a chafodd y ddwy arall eu boddi yn y môr.” Beth a wnaeth Steve? “Gweddïais ar Dduw i gael deall pam roedd hyn wedi digwydd, ond ches i ddim ateb. Felly gofynnais i fi fy hun, ‘Beth ydy pwynt gweddïo?’” Mae’r teimlad bod eu gweddïau heb gael ateb wedi gwneud i lawer feddwl nad oes pwynt gweddïo.

Mae pobl yn amau gwerth gweddïo am resymau eraill hefyd. Mae rhai yn teimlo gan fod Duw yn gwybod pob peth, mae’n rhaid ei fod yn ymwybodol o’n hanghenion a’n problemau, felly does dim pwynt dweud wrtho.

Mae eraill yn credu bod Duw yn gwrthod gwrando ar eu gweddïau oherwydd eu camgymeriadau yn y gorffennol. “Y broblem waethaf i mi,” meddai Jenny, “ydy teimlo’n ddi-werth. Dw i’n difaru gwneud llawer o bethau, felly dw i’n perswadio fy hun nad ydw i’n ddigon da i Dduw wrando arna i.”

Dynes yn edrych i fyny wrth weddïo mewn eglwys ac eraill yn plygu eu pennau.

Sut ydych chi’n teimlo am weddïo? Os ydy pryderon neu amheuon fel hyn wedi croesi eich meddwl chi, bydd yr atebion yn y Beibl yn rhoi cysur i chi. Mae’r Beibl yn awdurdod ar weddi;a gall eich helpu chi i gael atebion i gwestiynau fel:

  • Ydy Duw wir yn clywed ein gweddïau?

  • Pam mae rhai gweddïau yn mynd heb eu hateb?

  • Sut gallwch chi weddïo a gwybod bod Duw yn gwrando?

  • Sut gall gweddïo eich helpu?

a Mae’r Beibl yn cynnwys gweddïau llawer o weision Duw, gan gynnwys gweddïau Iesu Grist. Yn yr Ysgrythurau Hebraeg, neu’r Hen Destament, mae mwy na 150 o weddïau.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu